Galw am ambiwlans ddwywaith

Berwyn Griffiths gyda Harri Image copyright Other
Image caption Berwyn Griffiths: "Dwi ddim eisio i unrhyw deulu arall fynd drwy yr un profiad"

Bu'n rhaid i dad o Langristiolus ger Llangefni alw am ambiwlans ddwywaith cyn cael cymorth ar gyfer ei fab bach saith mis oed.

Fe ddaeth paramedig ar ôl yr ail alwad 999, ac aed â Harri Wyn Griffiths i Ysbyty Gwynedd, lle y bu'n rhaid iddo aros am bum niwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru: "Rydym yn ymddiheuro am unrhyw drallod a achoswyd gan y ffordd yr ymdriniwyd â'r digwyddiad.

"Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.

"Mae'r Ymddiriedolaeth yn fwy na pharod i drafod y mater gyda'r teulu".

'Troi'n las'

Dywedodd tad Harri, Berwyn Griffiths: "Roedd o'n taflu i fyny ac aeth o'n las drosto fo.

"Ffoniais 999 a'r ateb oedd, 'mi gewn ni nyrs i'ch ffonio chi nôl mewn chwarter awr.

"Pan y'ch chi mewn sefyllfa fel 'na, eich plentyn yn troi'n las, chi eisiau help.

"Doeddwn ni ddim eisiau mynd â fo i Ysbyty Gwynedd yn y car, rhag ofn i rywbeth ddigwydd.

"Ymhen chwarter awr, mi wnes i ail afael yn y ffôn a galw 999 eto, siarad â dynes arall, ac mi wnaeth hi anfon paramedig ar unwaith.

"Mae Harri'n iawn rŵan drwy drugaredd, ond dwi ddim eisio i unrhyw deulu arall fynd drwy yr un profiad".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.