Yr Arglwydd Emlyn Hooson wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r Arglwydd Hooson, cyn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Maldwyn yn 86 oed.
Dywedodd Glyn Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol yr etholaeth: "Mae Sir Drefaldwyn a Chymru wedi colli un o'u dinasyddion mwyaf.
"Gwasanaethodd yr etholaeth a Chymru am ddegawdau.
"Er ein bod mewn pleidiau gwahanol, ni chafwyd gair croes rhyngon ni.
"Bûm yn ei weld dros yr wythnosau diwethaf ac roedd yn hynod ddiddorol ei glywed yn sôn am sgyrsiau gafodd gyda phobol fel Lloyd George, Winston Churchill ac Aneurin Bevan."
Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick: "... roedd Emlyn yn ddyn anodd iawn ei ddrwglicio.
'Yn allweddol'
"Roedd e'n fonheddwr yn ystyr gorau'r gair, yn ddyn galluog a chwrtais gydag ymroddiad dwfn i wasanaeth cyhoeddus.
"Fe fyddai'n gor-ddweud honni bod Emlyn yn un o gewri gwleidyddol Cymru ond roedd ei rôl yn hanes ei blaid yn allweddol.
"Fe gyflawnodd lawer dros bobol Maldwyn a Chymru dros gyfnod o ddegawdau."
Yn ôl Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Roedd Emlyn Hooson yn cael ei barchu yn Nhŷ'r Arglwyddi a'r gymuned wleidyddol ehangach am ei ryddfrydiaeth angerddol, ei gariad at Gymru a'i feddwl chwim.
"Fe fydd yn cael ei gofio nid yn unig am ei waith cyfreithiol ond hefyd am sefydlu'r Blaid Ryddfrydol Gymreig, rhywbeth yr ydym yn parhau i ymfalchïo ynddo hyd heddi".
Roedd Emlyn Hooson yn Aelod Seneddol rhwng 1962-79 cyn ymuno â Thŷ'r Arglwyddi ym 1979.
Yn ystod ei yrfa yn Nhŷ'r Cyffredin, bu'n llefarydd ar amddiffyn, Materion Tramor, Materion Cartref, Materion Cyfreithiol, Amaethyddiaeth a Materion Cymreig.
Tynnu enw'n ôl
Yn 1967 ymgeisiodd am arweinyddiaeth ei blaid ond tynnodd ei enw yn ôl er mwyn cefnogi'r enillydd, Jeremy Thorpe.
Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr yn 1979 cyn symud i'r Arglwyddi lle oedd yn llefarydd ei blaid ar Faterion Cyfreithiol, Amaeth, Materion Ewropeaidd a Materion Cymreig.
Bu'n absennol o Dŷ'r Arglwyddi ers mis Ebrill 2011 oherwydd salwch.
Yn enedigol o Ddinbych, cafodd ei hyfforddi fel bargyfreithiwr.
Yn 1960 yn 35 oed fe'i gwnaed yn Gynghorydd i'r Frenhines, y bargyfreithiwr ieuengaf o Gymru i wneud hyn.
Un o'i achosion enwocaf oedd yn Llys y Goron Caer yn 1966 wrth amddiffyn Ian Brady, un o lofruddwyr y "Moors".