Malta: Taith emosiynol i ddynes 85
- Cyhoeddwyd

Mae pensiynwaig o'r Rhyl wedi bod ar daith emosiynol yn ôl i Ynys Malta lle yn 17 oed roedd yn rhan o'r frwydr filwrol i rwystro'r Almaen rhag goresgyn y wlad.
Teithiodd Josephine Barber 85 oed i'r ynys gyda'i mab a hynny diolch i arian y Gronfa Loteri Fawr.
Mae'r cynllun Arwyr yn Ôl wedi dosbarthu £1 miliwn i fwy na 830 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, gweddwon, priod a gofalwyr o Gymru er mwyn iddynt ymweld â lleoliadau yn gysylltiedig â'r rhyfel.
Roedd Josephine yn gweithio yn Ystafelloedd Rhyfel tanddaearol Lascaris ar yr ynys yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cyrchoedd bomio
Ei gwaith oedd monitro awyrennau'r gelyn a rhoi gwybodaeth holl bwysig i awyrlu Prydain.
Yn ystod y rhyfel y cyfarfu Josephine â'i gŵr cyntaf, Ted Roberts, milwr o Benrhyndeudraeth, oedd wedi ei leoli am gyfnod byr ar yr ynys.
Ar ôl y rhyfel fe ymgartrefodd y cwpl yng ngogledd Cymru.
Yn ystod y rhyfel roedd ynys Malta yn hynod bwysig i'r Cynghreiriaid, oherwydd ei lleoliad pwysig ym Mor y Canoldir.
Hwn oedd unig ganolfan y Cynghreiriaid rhwng Gibraltar a'r Aifft.
Mewn cyfnod o ddwy flynedd, hedfanodd Llu Awyr yr Almaen a'r Eidal gyfanswm o 3,000 o gyrchoedd bomio dros Falta mewn ymdrech i ddinistrio amddiffynfeydd RAF a'r porthladdoedd.
"Cafodd ein tŷ ei fomio ac fe'i torrwyd yn hanner fel darn o gaws," meddai Josaphine.
Lloches
"Roeddwn yn Sliema pan glywais y newyddion ac fe allwn fod wedi curo Roger Bannister yn rhedeg y diwrnod hwnnw oherwydd mi wnes i redeg y pum milltir o Sliema i Floriana ble'r oeddem ni'n byw.
"Roedd mam a dad yn ffodus i oroesi. Roeddent yn y lloches o dan y tŷ, er fe wnaeth yr holl bibellau dŵr ffrwydro ac roedd ganddynt ddŵr i fyny at eu pengliniau."
"Fe wnes i aros yn y tŷ hwn wedi'i fomio gyda milwyr Prydain am sbel. Fe wnaethant roi blanced y fyddin i mi er mwyn i mi gael preifatrwydd i gysgu."
Yn 17 oed roedd hi'n rhy ifanc i ymuno yn yr ymgyrch filwrol.
Ond fe berswadiodd yr offeiriad lleol i greu tystysgrif geni ffug iddi i'w gwneud yn flwyddyn yn hŷn er mwyn iddi ymuno â'r ymdrech.
"Roeddem yn ddiogel iawn yn yr ystafelloedd rhyfel oherwydd ein bod ni mor bell dan ddaear," meddai.
Fe wnaeth dewrder pobl Malta yn ystod ail Warchae Malta arwain at Frenin Siôr VI yn gwobrwyo Croes Siôr i Falta gyfan ar 15 Ebrill 1942 "am iddynt ddangos arwriaeth ac ymroddiad a bery'n enwog o fewn hanes."
Mae Josephine yn un o'i derbynyddion balch ac fe wisgodd y fedal ag anrhydedd wrth ddychwelyd i Falta.
Straeon perthnasol
- 3 Medi 2010
- 10 Chwefror 2005