Gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Mae'r nod o geisio sicrhau bod gan bobl yr hawl i ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd gam yn nes.
Dywed Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n gwrthwynebu cais am yr hawl i ddefnyddio enwau parth '.cymru' a '.wales.'
Daw'r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad i ehangu'r nifer o gyfeiriadau sydd ar gael fel '.com, '.net' a '.org'.
Mae modd nawr i wneud cais ar gost o £240,000 i ddefnyddio'r enwau Cymreig i Icann, y corff rhyngrwyd rhyngwladol.
Datblygu busnesau
Mae Ken Skates, AC De Clwyd, cadeirydd un o bwyllgorau'r cynulliad ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, wedi croesawu'r newyddion.
"Mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau enw ar gyfer Cymru ac enw fydd yn rhoi hwb economaidd i Gymru.
"Rwy'n ffyddiog y gallwn ddatblygu enw ar gyfer Cymru fydd yn help i ddatblygu potensial busnesau Cymru ledled y byd."
Gwnaed y cais i geisio am yr enwau '.cymru' a '.wales' gan Nominet, corff cofrestru'r Deyrnas Unedig.
Deellir y gallai'r ceisiadau i Icann ar gyfer enwau unigol gostio hyd at £120,000 yr un.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n talu am unrhyw geisiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2010
- Cyhoeddwyd6 Awst 2008