Plaid Cymru yn anfon papurau pleidleisio ar gyfer arweinydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y papurau pleidleisio ar gyfer dewis arweinydd newydd Plaid Cymru yn cael eu hanfon i'r aelodau.
Rhwng dydd Iau a chanol mis Mawrth fe fydd yr aelodau yn dewis rhwng tri ymgeisydd i olynu Ieuan Wyn Jones.
Eisoes mae'r tri, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones a Leanne Wood, wedi bod yn dadlau eu hachos mewn cyfres o gyfarfodydd.
Fe fydd y tri mewn cyfarfod yng Nghastell-nedd nos Iau.
Pedwar oedd yn y ras i ddechrau.
Ond dim ond tri enw sydd ar y papur pleidleisio wedi i Simon Thomas dynnu'n ôl yn gynharach yn y mis.
Mae gan 8,000 o bobl hawl i bleidleisio.
Eisoes mae nifer wedi cael cyfle i'w holi ac i glywed eu safbwyntiau ar yr economi, iechyd, annibyniaeth a chryfderau eu gwrthwynebwyr.
Mewn etholiad lle gallai ail ddewis yr aelodau arwain at ethol yr enillydd, mae nifer yn disgwyl ras agos ond yn dadlau y bydd y sawl ddaw i'r brig yn cael cefnogaeth lwyr y ddau arall.
Straeon perthnasol
- 21 Chwefror 2012
- 8 Chwefror 2012
- 20 Ionawr 2012
- 6 Chwefror 2012
- 27 Ionawr 2012
- 27 Ionawr 2012
- 17 Ionawr 2012
- 17 Hydref 2011