Prifysgol: Gwahardd staff dros dro

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,
Cyhoeddodd yr Athro McMahon fod ymchwiliad yn cael ei gynnal ym mis Hydref 2011

Mae rhai aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth wedi eu gwahardd o'u gwaith dros dro ac mae'n bosib y bydd mwy yn wynebu camau disgyblu.

Daw'r newyddion wedi ymchwiliad mewnol i ystod o weithgareddau masnachol a gweithredol yn y brifysgol.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll na llygredd.

Ond mae'r brifysgol wedi datgan bod yna fethiannau o ran dilyn y gweithdrefnau priodol.

Dywedodd y brifysgol nad oedd eu dulliau gweithredu yn ddigon cadarn ac, o ganlyniad, bu yna orwario ar rai cynlluniau.

Cyfrifwyr fforensig

Yn ôl y brifysgol mae newidiadau yn cael eu rhoi ar waith.

Nid oedd y brifysgol yn fodlon dweud faint o bobl sydd wedi eu gwahardd na faint sy'n debygol o wynebu camau disgyblu.

Cafodd canfyddiadau Adroddiad Ymchwil Prifysgol Aberystwyth eu cyflwyno i'r staff ddydd Mercher gan yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad fis Hydref y llynedd yn sgil adolygiad o ystadau'r Brifysgol.

Cafodd yr ymchwiliad gymorth cwmni cyfrifwyr fforensig Deloitte a'r cwmni o gyfreithwyr Eversheds.

Wrth annerch y staff ddydd Mercher, dywedodd yr Athro McMahon: "Rhoddais yr ymchwiliad hwn ar waith gan fy mod i'n credu bod sawl maes yn y Brifysgol yr oedd angen eu gwella.

"Mae'n dda gennyf ddweud nad yw'r tîm ymchwilio wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o dwyll na llygredd mewn perthynas â'r materion a ymchwiliwyd.

"Wrth dderbyn canfyddiadau'r ymchwiliad, gallwn yn awr weld beth sydd angen ei wneud a gofynnaf i'm cydweithwyr i gyd yn awr ganolbwyntio ar geisio dod o hyd i atebion adeiladol.

"Rhoddwyd rhai newidiadau ar waith eisoes; bydd cydweithwyr yn sylwi ar y newidiadau i drefn y pwyllgorau a'r ffaith bod ein harferion adrodd yn ôl yn fwy agored."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol