'Cymeradwyo' ysgol Gymraeg yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol gynradd AberteifiFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Ysgol Gynradd Aberteifi yw'r unig un yn ne Ceredigion sy'n parhau i gynnig llif cyfrwng Saesneg ar lefel cynradd

Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynnig i droi Ysgol Gynradd Aberteifi i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Ond yn ôl y cyngor ni fydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn derfynol tan ar ôl y cyfnod caniatáu i benderfyniadau gael eu galw i mewn, sef ddydd Iau, Mawrth 1.

Ar hyn o bryd mae yna ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg yno.

Ond penderfynodd y cabinet i dderbyn y cynnig i newid darpariaeth yr ysgol ddydd Mawrth.

Roedd y cynnig wedi cythruddo rhai rhieni ac mae dros 1,000 o wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu.

Awydd cynyddol

Ar hyn o bryd mae rhieni yn gallu dewis a yw eu plant yn cael addysg yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ar ôl y dosbarth derbyn.

Yn ôl adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Ceredigion, Rhodri Llwyd Morgan, bu gostyngiad sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn bennaf yn ffrwd ddwyieithog yr ysgol.

Ychwanegodd yr adroddiad fod yna oblygiadau arwyddocaol i'r ysgol yn sgil y duedd hon, yn nhermau cynaladwyedd y ffrwd cyfrwng Saesneg yn bennaf, yn ogystal â bod yn arwyddo'r awydd cynyddol i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Mae'r pennaeth a'r llywodraethwyr wedi ystyried nifer o opsiynau amrywiol yng ngolau'r duedd hon, ac wedi penderfynu mai'r ffordd ymlaen oedd dechrau trafod gyda rhieni y cynnig i newid yr ysgol i fod yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn unol â diffiniadau Llywodraeth Cymru," meddai'r adroddiad.

Mewn llythyr gafodd ei anfon i rieni ym mis Hydref 2011 fe amlinellwyd y cynlluniau i gael gwared ar y ffrwd Saesneg.

Ar y pryd dywedodd y prifathro, Robert Jenkins, dim ond dau o blant allan o 30 Blwyddyn Un oedd wedi dewis y ffrwd Saesneg.

Roedd y gweddill yn y ffrwd Gymraeg.

Cefnogi'r cynnig

Cynhaliodd yr ysgol gyfarfod gyda'r rhieni ar Hydref 12 i osod y cynnig yn fwy manwl.

Cefnogodd y cabinet gynnig i gynnal ymgynghoriad ehangach ym mis Rhagfyr y llynedd a daeth y cyfnod hwnnw i ben ar Chwefror 9 eleni.

Cyflwynwyd canfyddiadau'r ymgynghoriad i Lywodraethwyr yr ysgol y diwrnod hwnnw a chadarnhaodd y Llywodraethwyr eu bod yn cefnogi'r cynnig.

Y gred yw y bydd gweithredu'r cynnig yn dechrau ar Fedi 1 2013.

Fodd bynnag ni fydd yr ysgol yn dod yn ysgol cyfrwng Cymraeg lawn tan fis Medi 2019.

Bydd disgyblion sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn parhau i gael eu haddysgu yn y ffrydiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Dywedodd y cyngor na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu cyn Medi 2019.

Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi yw'r ysgol olaf yn ardal de Ceredigion sy'n parhau i gynnig llif cyfrwng Saesneg ar lefel cynradd.

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 45% o bobl Aberteifi yn medru darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Yn anffodus ni fedrwn gadarnhau penderfyniad Cabinet Ceredigion tan ar ôl y cyfnod sy'n caniatáu i benderfyniadau gael eu galw i mewn sef, yn yr achos hwn, 5pm ddydd Iau, Mawrth 1 2012."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol