Malky Mackay yn arwyddo cytundeb newydd gyda Chaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Malky Mackay wedi ei wobrwyo am arwain Caerdydd i rownd derfynol Cwpan Carling y penwythnos yma yn erbyn Lerpwl gyda chytundeb newydd tair blynedd a hanner.
Ym mis Mehefin cafodd Mackay ei benodi yn olynydd i Dave Jones.
Fe wnaeth Caerdydd dalu iawndal o £300,000 o Watford fel iawndal.
Ar y pryd, fe wnaeth arwyddo cytundeb blwyddyn.
Ond mae ganddo gytundeb pellach tan fis Mehefin 2016.
"Dwi'n arwyddo'r cytundeb yma gyda'r balchder mwya," meddai.
"Ers dod i dde Cymru mae fy meddyliau am Gaerdydd, fel dinas a chlwb a chefnogwyr wedi ei gryfhau."
Mae'r Albanwr wedi arwain yr Adar Gleision i safle'r gemau ail gyfle ac maen nhw'n chwilio am ddyrchafiad uniongyrchol i'r Uwchgynghra
Mae wedi gwneud hyn er ei fod wedi gorfod ail-adeiladu'r garfan.
Collodd Caerdydd 12 o chwaraewyr ar ôl colli i Reading yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle y tymor diwethaf.
Fe wnaeth Mackay arwyddo 10 chwaraewr newydd yn yr haf cyn ychwanegu tri arall ym mis Ionawr.
"Rydym yn falch iawn bod Malky wedi arwyddo'r cytundeb ac am aros gyda'r clwb yn y tymor hir," meddai Cadeirydd Caerdydd Dato Chan Tien Ghee.
"Mae ei ymroddiad a'i waith caled yn werth ei weld ac mae o wedi profi bod ganddo ddylanwad positif ar bawb sy'n gysylltiedig gyda'r clwb.
Fe fydd Mackay yn arwain Caerdydd i Wembley ddydd Sul i wynebu Lerpwl yn rownd derfynol Cwpan Carling.ir.