Meddyg teulu yn gyrru cyn y ddamwain a'i lladdodd
- Cyhoeddwyd

Bu farw meddyg teulu wedi damwain ar ffordd wledig ym Mhen Llŷn ym mis Gorffennaf am ei fod yn gyrru yn rhy gyflym i'r amgylchiadau ar y pryd.
Bu Dr Gwion Rhys, 38 oed o Lanarmon, Pwllheli, mewn gwrthdrawiad â thractor toc cyn ei fod i gynnal meddygfa'r prynhawn.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher fod Dr Rhys wedi bod mewn diwrnod mabolgampau ysgol cyn y ddamwain ar y B4354 ym Mhentre Uchaf ger Pwllheli.
Fe wnaeth y crwner, Dewi Pritchard-Jones, gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain.
Fe wnaeth car Audi Dr Rhys wrthdaro gyda thractor a hynny ger troad yn y ffordd.
Clywodd y cwest bod llwyth y tractor 1.2 metr oddi ar y ddaear er mwyn i'r gyrrwr 17 oed weld y ffordd.
Ond roedd breichiau'r tractor wedi chwalu ochr teithiwr yr Audi.
Roedd gyrrwr y tractor yn troi i'r dde mewn cyffordd pan ddigwyddodd y ddamwain.
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Lord y byddai Dr Rhys wedi marw yn syth.
Clywodd y cwest bod gyrwyr eraill wedi gweld yr Audi yn goddiweddyd ar gyflymder yn fuan cyn y ddamwain a hynny er eu bod nhw yn gwneud rhwng 40 a 50 milltir yr awr.
Roedd Dr Rhys yn enedigol o bentre Bow Street yng Ngheredigion.
Bu'n feddyg teulu yn ardal Nefyn a Llanaelhaearn am 10 mlynedd.
Mae'n gadael gwraig, pedwar o blant, rhieni a brawd.
Straeon perthnasol
- 14 Gorffennaf 2011
- 12 Gorffennaf 2011