Pobl yr ardal yn gobeithio codi cofeb i Nikitta Grender

Nikitta Grender Image copyright Other
Image caption O fewn pythefnos roedd Nikitta Grender, 19 oed, i fod i roi genedigaeth

Gallai cofeb i Nikitta Grender gael ei chodi ger ei chartref yng Nghasnewydd.

Mae trigolion Llysweri yn dweud eu bod am godi cofeb i'r ferch 19 oed gafodd ei llofruddio yn ei chartref gan gefnder ei chariad flwyddyn yn ôl.

Cafodd Carl Whant, 27 oed o'r Betws, Casnewydd, ei garcharu am leiafswm o 35 mlynedd am ei lladd, cynnau tân yn fwriadol a dinistrio baban yn y groth.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons fod yr ardal yn ceisio ymdopi â'r hy ddigwyddodd.

'Ergyd fawr'

"Rwy'n meddwl eu bod wedi eu llorio - dyw pethau fel hyn ddim yn digwydd.

"Rydyn ni'n gymuned dda ac mae llawer o bethau da yn digwydd ond mae rhywbeth fel hyn yn ergyd fawr."

Ychwanegodd y gallai cofeb fod o gymorth i bobl leol.

"Yn sicr, rwy wedi derbyn nifer o alwadau am y peth ac fe fyddwn yn cefnogi hynny," meddai.

"Mae'r teulu wedi gweld diweddglo ond mae'r profiad yr un mor ddrwg i gyfeillion agos a theulu ehangach.

Parti

"Sut mae rhywun yn dod dros farwolaeth aelod ifanc o'r teulu, heb sôn am un gyda phennod newydd o'i bywyd ar fin dechrau?"

Lladdodd Whant Ms Grender cyn rhoi ei fflat ar dân a dychwelyd i barti yr oedd wedi bod ynddo gyda chariad Nikitta, Ryan Mayes.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith Williams ei fod yn "berson cyfrwys, craff a balch oedd yn meddwl tipyn o'i hun."

Dywedodd teulu Nikitta fod y flwyddyn aeth heibio wedi bod "yn galetach i ni nag y gallai unrhyw un ddychmygu" a'u bod yn dal yn "anghrediniol" am yr hyn ddigwyddodd.

Straeon perthnasol