Taclo tân mewn archfarchnad yn Llanelli

Asda Llanelli Image copyright Other
Image caption Bu'n rhaid i 60 o gwsmeriaid a 25 aelod staff adael yr adeilad

Mae dyn 18 oed wedi ei arestio wedi tân mawr mewn archfarchnad yn Llanelli.

Bu'n rhaid i 85 o bobl adael archfarchnad nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Asda yn Stryd Murray am 8.17pm a bu rhaid i 60 o gwsmeriaid a 25 aelod staff adael wedi i'r tân ddechrau mewn eil fwyd yng nghanol yr archfarchnad.

Ar ei anterth roedd chwe injan dân ar y safle, gan gynnwys criwiau o Lanelli, Gorseinon, Gorllewin Abertawe, Pontiets a'r Tymbl.

Effeithiodd mwg ar siopau cyfagos.

'Ar gau'

Dywedodd Chris Margetts o'r gwasanaeth tân y byddai ymchwiliad gyda Heddlu Dyfed Powys.

Ychwanegodd fod yr adeilad yn ddiogel ond bod mwg wedi achosi ychydig o ddifrod.

Dywedodd llefarydd ar ran Asda: " Mae ein harchfarchnad yn Llanelli ar gau'r bore 'ma wedi'r tân neithiwr.

'Gwaith gwych'

"Mae angen inni lanhau wedi'r difrod gafodd ei achosi gan fwg a dŵr ac rydyn ni'n ymddiheuro i'n cwsmeriaid am unrhyw anghyfleustra.

"Cyflawnodd ein cydweithwyr waith gwych wrth dywys cwsmeriaid allan o'r archfarchnad a diolch i'r drefn chafodd neb ei anafu.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'r gwasanaeth tân am eu hymateb cyflym a'u cefnogaeth.

"Fe fyddwn ni'n parhau i helpu'r heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i achos y tân."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.