Lancaster yn enwi tîm Lloegr

Leigh Halpenny yn sgorio ei ail gais Image copyright Getty Images
Image caption Leigh Halpenny yn sgorio ei ail gais yn erbyn Yr Alban

Mae wythwr y Scarlets Ben Morgan wedi ei ddewis i ddechrau'r gêm i Loegr yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn yn Twickenham.

Bydd o'n wynebu pedwar o chwaraewyr y Scarlets sy'n chwarae i Gymru - Rhys Priestland, George North, Jonathan Davies a Ken Owens.

Er i Morgan chwaraewr yn erbyn Yr Alban a'r Eidal fel eilydd, hwn fydd y tro cyntaf iddo gael ei ddewis i ddechrau'r gêm.

Mae'r hyfforddwr Stuart Lancaster wedi dewis Owen Farrell yn safle'r maswr oherwydd anaf i Charlie Hodgson.

Pe bai Cymru yn fuddugol yn Twickenham byddant yn cipio'r Goron Driphlyg.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig tabl y Chwe Gwlad gyda Lloegr yn ail ar wahaniaeth pwyntiau.

Lloegr: Foden (Northampton); C Ashton (Northampton), M Tuilagi (Caerlŷr), B Barritt (Saracens), D Strettle (Saracens); O Farrell (Saracens), L Dickson (Northampton); A Corbisiero (Gwyddelod Llundain), D Hartley (Northampton), D Cole (Caerlŷr), M Botha (Saracens), G Parling (Caerlŷr), T Croft (Caerlŷr), C Robshaw (Harlequins, capt) B Morgan (Scarlets).

Eilydd: R Webber (Wasps), M Stevens (Saracens), C Lawes (Northampton), P Dowson (Northampton), B Youngs (Caerlŷr), T Flood (Caerlŷr), M Brown (Harlequins).

Cymru: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); R Priestland (Scarlets), M Phillips (Bayonne); G Jenkins (Gleision), K Owens (Scarlets), A Jones (Gweilch), A W Jones (Gweilch), I Evans (Gweilch), D Lydiate (Dreigiau), S Warburton (Gleision, capt), T Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: R Hibbard (Gweilch), P James (Gweilch), R Jones (Gweilch), J Tipuric (Gweilch), L Williams (Gleision), J Hook (Perpignan), S Williams (Scarlets).

Gemau Gwahaniaeth pwyntiau Pwyntiau
1. Cymru 2 +16 4
2. Lloegr 2 +11 4
3. Ffrainc 1 +18 2
4. Iwerddon 1 -2 0
5. Yr Alban 2 -21 0
6. Yr Eidal 2 -22 0

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.