27,000 o droseddau tra ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Fe gyflawnodd 12,509 o droseddwyr 27,129 o droseddau pan oedden nhw ar fechnïaeth yng Nghymru rhwng 2009 a 2011.
Cafodd BBC Newyddion Ar-lein y wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad fod "y system i gyd dan bwysau mawr".
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud nad yw'r mwyafrif llethol sy'n cael mechnïaeth yn ail-droseddu.
Yn 2011 cyflawnodd 4,249 o bobl ar fechnïaeth 9,248 o droseddau, gan gynnwys dwyn a thrafod eiddo gafodd eu dwyn, troseddau cyffuriau ac 19 o droseddau rhywiol.
O'r 41,869 gafodd fechnïaeth yn 2010 ni ymddangosodd 5,124 gerbron llys a diflannodd 1,773.
Yn 2008 cafodd 26,388 fechnïaeth yng Nghymru ac ni ymddangosodd 7,816 gerbron llys.
45%
Yn 2009 roedd 45% o droseddwyr oedd wedi cael dedfrydau o 12 mis neu fwy ac yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ail-droseddu.
Roedd 44% yng Ngharchar Caerdydd, 40% yng Ngharchar Abertawe a 9% yng ngharchardai Brynbuga a Phrescoed.
Dywedodd Mark Drakeford, Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r llysoedd o dan bwysau i roi mechnïaeth i bobl achos bod gormod o bobl yn y carchardai.
"Felly mae'r system i gyd dan bwysau mawr. Does dim digon o gynlluniau i helpu pobl sydd ar fechnïaeth a'u goruchwylio.
'Helpu'
"Yn y nawdegau roedd cynlluniau i'w helpu os oedd problemau yn codi ac roedden nhw'n ymwybodol bod pobol yn cadw golwg ac felly yn eu cymell i gadw allan o drwbwl.
"Dyw'r cynlluniau ddim wedi bod yn gyson gyda'r cynnydd mawr yn y nifer o bobl sy'n cael mechnïaeth".
Wrth gyfeirio at y cyfraddau ail droseddu, dywedodd: "Dwi'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Ken Clarke, fod wastad angen cadw pobol mas o'r carchar lle mae hynny'n bosibl.
"Pan mae pobol yn mynd i'r carchar maen nhw'n colli cymaint o bethau - gwaith, cartref, teulu - ac mae'n anodd iawn i fyw heb broblemau ar ôl dod allan.
"Yn gyffredinol, mae pobol yn fwy peryglus ar ôl dod allan o'r carchar ac yn fwy tebygol o fod yn dreisgar".
'Gofal eithriadol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mater i'r heddlu a'r llysoedd yw penderfynu caniatáu mechnïaeth, yn seiliedig ar ffeithiau llawn ym mhob achos.
"Maen nhw'n edrych ar yr holl dystiolaeth ac yn cymryd gofal eithriadol mewn achosion yn ymwneud â throseddau treisgar.
"Dyw'r mwyafrif llethol o bobl sy'n cael mechnïaeth ddim yn ail-droseddu ac, yn aml, mae'r amodau'n gaeth, gan gynnwys tagiau electronig a chyrffyw.
"Ond mewn rhai achosion mae rhai diffynyddion sy'n cael mechnïaeth yn ail-droseddu."
Straeon perthnasol
- 14 Rhagfyr 2010