Problemau pellach am ddilysu graddau Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Prifysgol Cymru yn cynnig sawl cwrs ôl-raddedig MBA yn y sefydliad yn Birmingham

Mae BBC Cymru wedi darganfod tystiolaeth bellach o broblemau yn y berthynas rhwng Prifysgol Cymru a cholegau eraill lle y mae'n dilysu graddau.

Mae nifer o fyfyrwyr tramor yn Birmingham Graduate School, sy'n cynnig graddau MBA Prifysgol Cymru, yn dweud eu bod wedi eu gadael mewn gwagle oherwydd ffrae ariannol rhwng y sefydliadau.

Maen nhw'n ofni na chawn nhw eu tystysgrifau terfynol.

Ym mis Hydref 2011, cyhoeddodd Prifysgol Cymru y byddai'n rhoi'r gorau i ddilysu graddau mewn sefydliadau eraill yn y DU a thramor, ond y byddai'n cyflawni ymrwymiadau presennol.

Dywedodd Prifysgol Cymru bod manylion am gytundebau dilysu gyda cholegau sy'n bartneriaid, gan gynnwys taliadau ffioedd, yn gyfrinachol.

Gofynnwyd i Birmingham Graduate School am eu hymateb.

Dyledion

Mae Prifysgol Cymru yn cynnig sawl cwrs ôl-raddedig MBA yn y sefydliad yn Birmingham.

Roedd un myfyriwr o Fangladesh yn disgwyl ei dystysgrif gradd ym mis Ionawr.

Ond mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth ddogfennol gan Uned Ddilysu Prifysgol Cymru, yn dweud na fyddai'n rhoi unrhyw dystysgrifau na llythyrau o gadarnhad tan fod yr ysgol yn Birmingham yn talu ei dyledion.

Mae'r myfyriwr, sydd am fod yn ddienw, wedi talu dros £3,000 mewn ffioedd ar gyfer y cwrs ac wedi cyflawni sawl modiwl a thraethawd hir.

"Pam ddylwn i ddioddef? Fe wnes i dalu fy arian, a bodloni'r holl anghenion.

"Dylai'r coleg a'r brifysgol gyflawni eu dyletswyddau.

"Dwi eisiau derbyn fy ngradd".

Dywedodd ei fod wedi gwneud cais ar gyfer Birmingham Graduate School gan ei fod yn ystyried gradd MBA Prifysgol Cymru yn un o'r goreuon yn y byd.

"Dwi ddim yn gwybod beth i wneud", meddai.'

'Dyletswydd gofal'

Mewn datganiad, dywedodd Prifysgol Cymru na allai wneud sylw am amgylchiadau myfyrwyr unigol a bod "manylion holl gytundebau dilysu gyda cholegau sy'n bartneriaid, gan gynnwys taliadau ffioedd yn unol â'r contract rhwng y brifysgol a'i phartneriaid, yn gyfrinachol ac yn sensitif yn fasnachol."

Ychwanegodd fod ganddi "ddyletswydd gofal i ddarparu canlyniadau a thystysgrifau i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen o astudiaeth yn llwyddiannus."

Yn 2011 fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu cynllwyn lle'r oedd myfyrwyr tramor yn cael cymorth i gael graddau Prifysgol Cymru er mwyn cael teithebau i ddod i'r DU.

Bu'r BBC yn gweithio'n gudd i ddangos marchnad mewn diplomas ôl-radd sy'n cael eu defnyddio i gofrestru ar gyfer cyrsiau MBA, ac yn golygu nad oes rhaid gwneud dau draean o'r gwaith.

Bwriad y cynllwyn oedd troi myfyrwyr ffug yn raddedigion er mwyn medru gwneud cais am deitheb (visa) i weithio ar ôl eu haddysg.

Seren bop

Mewn ymchwiliad arall yn 2010, fe wnaeth BBC Cymru ddatgelu fod seren bop o Falaysia gyda doethuriaeth ffug wedi bod yn rhedeg coleg oedd yn cynnig cyrsiau gradd Prifysgol Cymru.

Roedd Fazley Yaakob, oedd yn gyfrifol am Fazley International College (FIC) ym Malaysia, yn honni fod ganddo radd ymchwil a doethuriaeth.

Roedd y cymwysterau wedi eu rhoi gan brifysgol ffug.

Arweiniodd hyn at adroddiad 'damniol' i 'gysylltiadau' Prifysgol Cymru gan y corff sydd yn goruchwylio addysg uwch, Quality Assurance Agency.

Dywedodd adroddiad y QAA bod tri chysylltiad gan y brifysgol dramor yn achosi pryder iddyn nhw.

Ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth Prifysgol Cymru gyhoeddi y bydd ond yn dilysu graddau mewn sefydliadau sy'n llwyr o dan eu rheolaeth.

Roedd y newid yn rhan o strategaeth academaidd newydd Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.

Cyhoeddwyd na fyddai Prifysgol Cymru yn gorff sy'n dilysu graddau prifysgolion eraill yng Nghymru ac y byddai hefyd yn cau rhaglenni a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor, ac yn cyflwyno model academaidd newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol