Hyrwyddo Cymru ar draws y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddwyd

Bydd Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn sawl dinas o gwmpas y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd 'na amserlen lawn o weithgareddau o China i Efrog Newydd ac o Frwsel i Lundain.
Y bwriad yw dathlu'r gorau o Gymru yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Fe fydd yr ymgyrch yn cychwyn ddydd Llun ym Mrwsel.
Yno fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad blynyddol Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys bwyd a diod o Gymru.
Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn gwahoddiad y mae cynrychiolwyr o sefydliadau Ewropeaidd a'r gymuned fusnes.
Rhannu arbenigedd
Yn China bydd amryw o ddigwyddiadau yn Beijing, Shanghai a Chongquing.
Bydd dinas Chongquing yn cynnal 'Wythnos Cymru' ac ymhlith y gweithgareddau y mae derbyniadau gan Lywodraeth Cymru, digwyddiadau sy'n hybu Addysg Uwch ac Addysg Bellach, arddangosfa gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a seminarau busnes yn hybu'r sectorau Ynni a'r Amgylchedd.
Y llynedd fe fu Mr Jones yn China ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Chongquing arwyddo memorandwm sy'n golygu bod y ddwy lywodraeth yn rhannu arbenigedd mewn ystod eang o feysydd diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol.
Yn Efrog Newydd hefyd fe fydd 'na 'Wythnos Cymru' gan ddechrau gyda noson yng nghwmni Matthew Rhys ar Chwefror 27 yn y Soho Crosby Street Hotel.
Bydd dangosiad cyntaf y ffilm sydd wedi'i leoli yn Abertawe, 'Hunky Dory' gyda Minnie Driver yn serennu hefyd a bydd gŵyl ffilmiau Cymreig - Iddewig.
Bydd 80 aelod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cael cyfle drostyn nhw eu hunain i flasu'r cynnyrch Cymreig gorau pan fydd brecwast Cymreig yn cael ei ddarparu iddyn nhw yn y Cenhedloedd Unedig.
Bydd ymgyrch farchnata newydd yn cychwyn yn Iwerddon yn ystod yr wythnos, Croeso Cymru, a fydd yn hybu mwy o ymwelwyr o Iwerddon i ddod i Gymru ar wyliau.
'Codi proffil'
Ac yn Llundain bydd trigolion y ddinas yn cael blas o Gymru mewn digwyddiadau sy'n arddangos cynnyrch o Gymru mewn siopau fel John Lewis, Waitrose and Partridges.
Bydd bwyd a diod o Gymru sydd wedi ennill gwobrau ar gael mewn marchnad o gynhyrchwyr Cymreig a gynhelir am dridiau ar y Southbank.
Yn ogystal fe fydd 'na ddigwyddiad i'r sector ariannol yn Y Ddinas â digwyddiad gyda BAFTA i hybu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Wedi bod draw ym Mrwsel ar ddechrau'r wythnos erbyn Dydd Gŵyl Dewi ei hun bydd Carwyn Jones mewn cinio yng Nghastell Caerdydd i gydnabod cyfraniad pwysig y Sector Gwirfoddol yng Nghymru.
"Mae Dydd Gŵyl Dewi'n adeg o ddathlu i bawb yng Nghymru, ond mae hefyd yn cynnig cyfle unigryw i ni godi ein proffil yn rhyngwladol fel gwlad i fuddsoddi ynddi, i wneud busnes ac i ymweld â hi," meddai Mr Jones.
"Bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio'r diwrnodau sy'n arwain at Ddydd Gŵyl Dewi a'r diwrnod ei hunan i arddangos i'r byd y gorau sydd gan ein gwlad i'w gynnig, o'r bwyd a'r ddiod gorau posib i fod yn lle rhagorol i wneud busnes.
"Mae gan Gymru ddiwylliant unigryw a hanes sy'n ymestyn yn ôl ymhell i'r gorffennol, ac rwyf am weld pobl o fannau mor amrywiol â China ac America yn dod i wybod mwy amdanom a beth sydd gennym i'w gynnig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011