Ergyd i Gymru a James Hook

  • Cyhoeddwyd
Stephen JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Os daw i'r maes bydd Stephen Jones yn ennill cap rhif 105 dros Gymru

Mae James Hook allan o garfan Cymru wrth iddyn nhw geisio sicrhau'r Goron Driphlyg yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Nid yw maswr Perpignan wedi gwella'n llwyr o frech yr ieir, ac fe fydd Stephen Jones yn cymryd ei le ar y fainc.

Gallai Jones ennill cap rhif 105 dros Gymru os ddaw i'r maes.

Mae'r clo Alun Wyn-Jones a'r capten Sam Warburton yn dychwelyd i'r tîm ar gyfer y gêm fawr.

Dywedodd datganiad gan dîm Cymru: "Er bod Hook yn teimlo'n iach yn gorfforol, y teimlad oedd y byddai'n well tynnu ei enw yn ôl er lles tîm Cymru a'r gwrthwynebwyr.

"Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd, ond ein casgliad oedd mai hwn oedd y cam mwyaf cyfrifol."

Newidiadau

Mae Cymru wedi gwneud tri newid yn y pac o'r un a gurodd Yr Alban bythefnos yn ôl o 27-13.

Bydd y bachwr Ken Owens yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf oherwydd anafiadau i Matthew Rees a Huw Bennett.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Alun Wyn-Jones ei ddewis oherwydd ei brofiad yn yr ail reng

Bydd Alun Wyn-Jones yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers Cwpan Y Byd yn lle Ryan Jones, fydd hefyd yn trosglwyddo'r gapteiniaeth i Warburton.

Er gwaethaf gêm dda yn erbyn Yr Alban, does dim lle yn y 22 i Aaron Shingler.

Mae'r olwyr yn aros yr un fath a'r llinell ddechreuodd yn y ddwy fuddugoliaeth hyd yma yn erbyn Iwerddon a'r Alban.

Yr unig bryder ymysg yr olwyr oedd anaf i George North, ond mae'r asgellwr 19 oed wedi gwella o'r anaf mewn pryd.

Profiad

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Cafodd Alun Wyn-Jones ei ddewis oherwydd ei brofiad fel clo rhyngwladol.

"Roedd yn benderfyniad anodd iawn, ond yn broblem dda i'w chael, ac er bod Ryan Jones yn anlwcus iawn i golli ei le, dyma'r union fath o gystadleuaeth am le yn y tîm yr ydym wedi gobeithio ei weld."

Ar y fainc bydd Richard Hibbard o'r Gweilch yn barod i lenwi bwlch y bachwr os fydd Ken Owens yn gadael y maes.

Andy Powell yw'r llall i golli ei le ar y fainc wrth i Ryan Jones eistedd yno, tra bod Lloyd Williams a Scott Williams yn barod i ddod i'r adwy ymysg yr olwyr.

Er mai dim ond unwaith y mae Cymru wedi ennill yn Twickenham ers 20 mlynedd, dywedodd Gatland nad yw hynny'n poeni rhyw lawer ar y tîm.

"Yn sicr does dim ofn yna erbyn hyn," meddai Gatland wrth BBC Cymru.

"Os gawn ni feddiant da, mae gennym gyfle da, ac yn hytrach na bod ofn Twickenham, mae'n gyffrous.

"Rwy'n disgwyl mai agwedd Lloegr fydd ceisio cael cais, trosiad a phedair cic gosb gan obeithio y bydd 19 o bwyntiau yn ddigon.

"Mae'r her enfawr mynd i Twickenham fel ffefrynnau.

"Rhaid i'r tîm ifanc yma ddysgu derbyn, a delio gyda'r disgwyliadau hynny, oherwydd yng Nghymru does dim tir canol.

"Mae cael cymaint o gefnogaeth yn mynd i roi sbardun i Loegr hefyd a rhaid i ni ddelio gyda hynny."

TIMAU

CYMRU: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Baynonne); Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision, capt), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).

LLOEGR: Ben Foden (Northampton Saints); Chris Ashton (Northampton Saints), Manusamoa Tuilagi (Leicester Tigers), Brad Barritt (Saracens), David Strettle (Saracens); Owen Farrell (Saracens), Lee Dickson (Northampton Saints); Alex Corbisiero (London Irish), Dylan Hartley (Northampton Saints), Dan Cole (Leicester Tigers), Mouritz Botha (Saracens), Geoff Parling (Leicester Tigers), Tom Croft (Leicester Tigers), Chris Robshaw (Harlequins, capt), Ben Morgan (Scarlets).

Eilyddion: Rob Webber (London Wasps), Matt Stevens (Saracens), Courtney Lawes (Northampton Saints), Phil Dowson (Northampton Saints), Ben Youngs (Leicester Tigers), Toby Flood (Leicester Tigers), Mike Brown (Harlequins).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol