Nathan Cleverly am roi hwb i Gymru

Sam Warburton, Nathan Cleverly a Mark Hudson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cleverly (canol) gyda chapten rygbi Cymru Sam Warburton (chwith) a chapten tîm pêl-droed Caerdydd Mark Hudson cyn penwythnos mawr chwaraeon yng Nghymru

Mae Nathan Cleverly am roi bocsio Cymru ar y map unwaith eto wrth geisio amddiffyn coron is-drwm WBO y byd yn erbyn Tommy Karpency yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Hwn fydd y tro cyntaf iddo ymladd ar ei domen ei hunan ers pedair blynedd.

Hon hefyd fydd yr ornest gyntaf am bencampwriaeth byd yng Nghymru ers i Joe Calzaghe guro Mikkel Kessler yn 2007.

"Bydd yn achlysur arbennig iawn i fi ac i focsio Cymru ... cyfle i ddod â'r dyddiau aur yn ôl i focsio Cymru," meddai'r paffiwr 25 oed.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Mae'n benwythnos gwych, Cymru'n chwarae yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad a Chaerdydd yn rownd derfynol Cwpan Carling.

"Mae'n arbennig i wlad fach fel Cymru gynnal pencampwriaeth bocsio'r byd. Mae'n wych i'r wlad, y cefnogwyr ac i finne gael bod yn rhan o hynny."

'Disgwyliadau'

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Cleverly yn bocsio yng Nghymru am y tro cyntaf ers pedair blynedd

Bydd Cleverly yn ceisio amddiffyn ei goron WBO am y trydydd tro yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Fe yw'r unig bencampwr byd o Brydain wedi i David Haye, Amir Khan, Carl Froch a Derek Chisora golli'n ddiweddar.

"I fi mae dod â phencampwriaeth byd yn ôl i Gymru yn bwysig," meddai. "Rwy wrth fy modd gyda'r pwysau ychwanegol o fod yn bencampwr byd a'r disgwyliadau am y penwythnos."

Mae Cleverly, sy'n dechrau fel ffefryn nos Sadwrn, yn cael ei gymharu gyda Joe Calzaghe, gan i'r ddau gael eu magu yn Sir Caerffili.

Daeth gyrfa Calzaghe i ben gyda 46 o ornestau yn ddiguro ac mae Cleverly eisoes wedi ennill 23 gornest heb golli.

Dylanwad cryf

Ac mae Cleverly yn cydnabod bod Calzaghe yn ddylanwad cryf.

"Mae Joe wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth. Roedd yn bencampwr byd pan o'n i'n dechrau bocsio.

"Fe gafodd e a finne ein magu mewn amgylchiadau tebyg ac mae'n profi bod unrhyw beth yn bosib.

"Gall rhywun o dref fach yn y cymoedd mewn gwlad fach goncro'r byd. Mae Joe wedi gwneud hynny - fy nhro i yw hi nawr."

Pencampwriaeth WBO Is-drwm y Byd: Arena Motorpoint Caerdydd; Nos Sadwrn, Chwefror 25 am 7pm.

Straeon perthnasol