Angen mwy o ddynion ar gyfer côr
- Cyhoeddwyd

Mae'r arweinydd côr Ann Atkinson wedi lansio apêl er mwyn ceisio denu mwy o ddynion i ymuno â chôr newydd.
Bydd y côr yn perfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy ym mis Medi.
Daeth llawer o aelodau'r côr cymysg at ei gilydd pan ffurfiwyd côr yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam llynedd.
Bu'r profiad yn un mor bleserus roedd yr aelodau am barhau i ganu gydag Ann.
Mae tua 70 aelod wedi dod at ei gilydd ond mae'r côr yn brin o ddynion i ganu'r rhannau bas a thenor.
Meddai Ann Atkinson: "Daeth mwy 'na 65 o bobl i'r ymarfer cyntaf ond mae angen mwy o ddynion fel bod gennym y balans cywir."
Dywedodd ei bod wrth ei bodd bod y côr a ffurfiwyd ar gyfer yr eisteddfod yn mynd i barhau.
"Doedd pobl ddim am i'r profiad ddod i ben.
"Mi wnes i fwynhau'r profiad yn fawr iawn wedi ymwneud yn bennaf â chorau meibion."
Bydd y côr yn perfformio darn o'r enw The Armed Man gan y cyfansoddwr Cymraeg Karl Jenkins, a fydd yn mynychu'r perfformiad.
"Mae'r cyfle i berfformio The Armed Man yn gyffrous iawn a dwi'n sicr bydd hi'n brofiad hudol," meddai Ms Atkinson.
Bydd ymarfer nesaf y côr ar ddydd Mawrth 28 Chwefror am 7pm yng Nghapel Ebeneser, Wrecsam, ac mae croeso i aelodau newydd ymuno.