Bellamy 'ddim yn edrych ymlaen'

Craig Belllamy Image copyright Getty Images
Image caption Bellamy: ' ... fy nhad yn cefnogi Caerdydd a gweddill y teulu.'

Mae ymosodwr Lerpwl a Chymru, Craig Bellamy, wedi cyfaddef nad yw'n edrych ymlaen at wynebu Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Carling yn Wembley ddydd Sul.

Gallai cyn gapten Caerdydd ennill ei dlws cyntaf yn y byd pêl-droed yn erbyn ei ddinas enedigol ond dywedodd na fyddai'n dathlu os bydd yn sgorio yn y gêm.

Sgoriodd 11 gôl mewn cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd y tymor diwethaf wrth iddo wireddu ei uchelgais i chwarae dros yr Adar Gleision.

"Mae fy nhad yn cefnogi Caerdydd a gweddill y teulu," meddai. "Hwn yw'r clwb yr oeddwn yn mynd i'w wylio pan o'n i'n ifanc iawn.

"Roedd gen i un uchelgais mewn bywyd, chwarae drostyn nhw ac fe wnes i hynny - ond mae'n rhyfedd beth sy'n digwydd yn y byd pêl-droed weithiau."

Daeth yn gapten Caerdydd wrth arwyddo am dymor ar fenthyg o Manchester City yn Awst 2010 a chwarae 35 o gemau i'r Adar Gleision.

Ond methodd â chyrraedd Wembley gyda Chaerdydd wrth iddyn nhw golli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Reading.

Symudodd o Manchester City yn ôl i Lerpwl yn Awst 2011.

"Mae'r ffeinal yn sefyllfa ryfedd," meddai.

"Dwi erioed wedi chwarae yn erbyn Caerdydd o'r blaen ac nid yw'n rhywbeth yw wyf i'n edrych ymlaen ato, a bod yn onest.

"Yn sicr fydda i ddim yn dathlu (os bydda i'n sgorio) - ond wedyn fe wnes i drio peidio yn erbyn Manchester City ond mae'r achlysur weithiau yn mynd yn ormod."

Mae wedi gwella o anaf i'w gefn oedd yn bygwth ei le yn y garfan. Collodd y gêm yn erbyn Brighton yng Nghwpan yr FA ond mae'n hyderus y bydd yn holliach ar gyfer dydd Sul.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.