Tân Llanelli: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Asda Llanelli Image copyright Other
Image caption Bu'n rhaid i 60 o gwsmeriaid a 25 aelod staff adael yr adeilad

Mae dyn 18 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â thân mewn archfarchnad yn Llanelli wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol ar ôl i 85 o gwsmeriaid a staff orfod gadael siop Asda nos Fercher.

Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Asda yn Stryd Murray am 8.17pm nos Fercher a bu rhaid i 60 o gwsmeriaid a 25 aelod staff adael wedi i'r tân ddechrau mewn eil fwyd yng nghanol yr archfarchnad.

Ar ei anterth roedd chwe injan dân ar y safle, gan gynnwys criwiau o Lanelli, Gorseinon, Gorllewin Abertawe, Pontiets a'r Tymbl.

Effeithiodd mwg ar siopau cyfagos.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.