Am newid coblau stryd fawr
- Cyhoeddwyd

Bydd prif stryd ddadleuol Y Waun yn cael arwyneb newydd wedi blynyddoedd o feirniadaeth.
Cafodd y coblau eu gosod ar Stryd yr Eglwys yn ystod y 1990au ond cawson nhw eu newid yn rhannol pan ddechreuodd y ffordd chwalu.
Mae pobl leol wedi croesawu'r newyddion bod Cyngor Wrecsam yn mynd i newid yr heol.
Cyfaddefodd yr awdurdod lleol nad oedd y cynllun gan Awdurdod Datblygu Cymru i osod y coblau wedi bod yn llwyddiannus.
Uwchraddio
Dywedodd Ian Roberts, cynghorydd Gogledd Y Waun, fod pobl leol wedi bod yn brwydro i newid arwyneb yr heol am flynyddoedd.
"Mae'r broses wedi bod yn un hir ond mae'n debygol y bydd rhywbeth yn cael ei wneud yn awr," meddai.
"Roedd yr arwyneb i fod yn wydn ond roedd talpiau yn dod yn rhydd o'r heol."
Bydd croesfan i gerddwyr yn cael ei gosod fel rhan o'r cynllun gwerth £30,000 i uwchraddio'r heol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Roedd y cynllun i osod y coblau yn broses newydd pan gawson nhw eu gosod ond nid oedd y cynllun yn llwyddiannus.
"Methodd y cynllun ymhen rhai blynyddoedd wedi i'r coblau gael eu gosod.
"Mae'r cyngor wedi gorfod aros am 10 mlynedd i amnewid yr arwyneb oherwydd amodau sy'n gysylltiedig â'r gwaith gwreiddiol."