Llofruddiaeth: Cadw yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Kelvin Jones ei ddarganfod ar ddydd Sul Chwefror 12 eleni
Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn ym Mangor yn gynharach ym mis Chwefror wedi ymddangos gerbron llys.
Ymddangosodd David Anthony Swift, 42 oed, heb gyfeiriad sefydlog, gerbron Llys y Goron Caernarfon.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Merfyn Hughes a bydd yn ymddangos gerbron llys eto ar Ebrill 20.
Bu farw Kelvin Jones, 43 oed ac yn wreiddiol o Ynys Môn, ym Mangor Uchaf wedi ymosodiad yn Sgwâr Britannia yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Sul Chwefror 12.
Straeon perthnasol
- 15 Chwefror 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol