Byrgleriaeth: Rhyddhau dau ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi'u harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio yn dilyn byrgleriaeth mewn tafarn yn Llangollen.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau bod rhywun wedi dwyn swm bychan o arian ar ôl torri i mewn i dafarn Tywysog Cymru yn Stryd y Rhaglyw am 12.45am ar Chwefror 21 eleni.
Mae'r arestiadau yn rhan o Gyrch Middleton, sy'n ceisio taclo byrgleriaethau a lladradau yn ardaloedd Llangollen a Dinbych.
Mewn achos gwahanol yn ddiweddar cafodd dyn ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Prestatyn wrth i'r heddlu ymchwilio nifer o droseddau sy'n gysylltiedig â Chyrch Midddleton.
Dywedodd yr Arolygydd Gary Kelly: "Rydyn ni'n dechrau gweld bod ein hymgyrch i daclo byrgleriaethau a lladradau yn yr ardal yn dechrau dwyn ffrwyth.
"Mae'r cyrch wedi bod yn weithredol ers sawl wythnos gan gynnwys cynyddu patrolau, casglu gwybodaeth a chydweithio â chynllun Gwarchod Ffermydd.
"Dylai busnesau, ffermwyr a thrigolion sicrhau bod eu heiddo yn ddiogel."