RaboDirect Pro 12

  • Cyhoeddwyd
Josh Turnbull yn sgorio dros y ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Josh Turnbull yn sgorio dros y Scarlets

Ulster 15-14 Gweilch

Fe wnaeth Ulster wrthsefyll ymdrech ddewr gan y Gweilch wrth sicrhau buddugoliaeth o bwynt yn unig yn Ravenhill.

Y Gweilch, sy'n ail yn y gynghrair, aeth ar y blaen gyda chais Joe Bearman.

Ond roedd yna gais cosb ddadleuol i Ulster gyda Dan Biggar yn cael ei anfon o'r cae am ddeng munud.

Dyfarnwyd cais gosb i Ulster gyda'r dyfarnwr yn dweud fod Biggar wedi bwrw'r bel ymlaen yn fwriadol wrth i Ulster ymosod.

Roedd Biggar dal yn absennol o'r cae wrth i Paddy Wallace sgorio ail gais Ulster.

Bu'n rhaid i'r Gwyddelod ymladd yn galed am eu buddugoliaeth wrth i Eli Walker sgorio ail gais y Gweilch.

Ulster: S Terblanche; C Gilroy, N Spence, P Wallace, I Whitten; R Pienaar, P Marshall; P McAllister, A Kyriacou, J Afoa, L Stevenson, D Tuohy, C Henry (capt), W Faloon, P Wannenburg.

Eilyddion: N Brady, C Black, A Macklin, T Barker, R Diack, I Humphreys, S Danielli, A D'Arcy.

Gweilch: R Fussell; H Dirksen, A Bishop, S Watermeyer, E Walker; Biggar, K Fotuali'i; D Jones, S Baldwin, J Rees, I Gough, J King, T Smith (capt), S Lewis, J Bearman.

Eilyddion: M Davies, R Bevington, W Taylor, J Thomas, G Stowers, R Webb, M Morgan, A Beck.

Munster 16-13 Gleision

Er i'r Gleision frwydro'n ôl yn yr ail hanner doedd hynny ddim yn ddigon wrth i Munster sicrhau buddugoliaeth yn Thomond Park.

Rhoddodd cig gosb Dan Parks y Gleision ar y blaen, ond roedd Munster yn gyfartal ar ôl i Gavin Henson gael ei gosbi am gamsefyll.

Aeth Munster ymhellach ar y blaen gyda chais Felix Jones.

Ar yr egwyl roedd Munster 16-3 ar y blaen.

Tarodd y Gleision yn ôl gyda chais gan yr asgellwr Richard Mustoe yn y gornel, a llwyddodd Parks gyda'r trosgais.

Methodd Parks gyda chig gosb, ond llwyddodd yr eilydd Ceri Sweeney gyda chic arall i leihau'r bwlch i 16-13.

Munster: F Jones; J Murphy, D Barnes, L Mafi, S Zebo; I Keatley, T O'Leary; M Horan, D Varley, BJ Botha, B Holland, M O'Driscoll (capt), Dave O'Callaghan, T O'Donnell, J Coughlan.

Eilyddion: D Fogarty, W du Preez, S Archer, D Foley, P Butler, D Williams, S Deasy, L O'Dea.

Gleision: Chris Czekaj; Richard Mustoe, Gavin Evans, Gavin Henson, Tom James; Dan Parks, Richie Rees; John Yapp, Ryan Tyrell, Scott Andrews, Cory Hill, Paul Tito (capt), Michael Paterson, Martyn Williams, Maama Molitika.

Eilyddion: Rhys Thomas, Nathan Trevett, Sam Hobbs, Macauley Cook, Thomas Young, Lewis Jones, Ceri Sweeney, Ben Blair.

Nos Iau

Scarlets 32-20 Treviso

Brwydrodd y Scarlets o fod yn 14-0 i lawr i sicrhau buddugoliaeth gyda phwyntiau bonws yn erbyn Treviso yng Nghynghrair Pro12.

Fe wnaeth y cefnwr Ludovico Nitoglia a'r clo Valerio Bernabo sgorio ceisiau cynnar yr ymwelwyr ym Mharc y Scarlets, gyda Willem de Waal yn trosi'r ddau.

Ond dim ond trosiad de Waal oedd mantais Treviso ar yr egwyl ar ôl ceisiau Josh Turnbull a Deacon Manu.

Cafwyd rhagor o geisiau gan Liam Williams a Liam Davies ar ôl yr egwyl ac fe wnaeth Aled Thomas gicio 14 pwynt.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Scarlets yn codi o seithfed i bumed yn y tabl.

Scarlets: Liam Williams; Lee Williams, Gareth Maule (capt), Adam Warren, Andy Fenby; Aled Thomas, Gareth Davies; Phil John, Emyr Phillips, Deacon Manu, Dominic Day, Damian Welch, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy.

Eilyddion: L Davies am A Davies (57), R Jones am John (52), P Edwards am Manu (70), Reed am Day (63), Shingler am Welch (48).

Ni ddefnyddiwyd: Hawkins, O Williams, Iongi.

Treviso: Ludovico Nitoglia; Benjamin De Jager, Tommaso Iannone, Andrea Pratichetti, Brendan Williams; Willem De Waal, Simon Picone; Ignacio Fernandez Rouyet, Franco Sbaraglini (capt), Pedro Di Santo, Enrico Pavanello, Valerio Bernabò, Manoa Vosawai, Gonzalo Padrò, Marco Filippucci.

Eilyddion: E Galon am De Jager (73), A Di Bernardo am Williams (76), G Garcia am Picone (64), C Fazzari am Rouyet (64), E Ceccato am Sbaraglini (64), B Vermaak am Bernabo (64), D Vidal am Vosawai (72).

Ni ddefnyddiwyd: A Allori.

Torf: 6,594

Chwefror 27 2012