Cymro yn cael ei arestio yn Libya
- Cyhoeddwyd
Mae dyn camera o Gaerfyrddin ynghyd â newyddiadurwr arall wedi cael eu harestio yn Libya.
Cafodd Gareth Montgomery-Johnson a Nicholas Davies eu harestio gan aelodau o Frigâd Mistra ddydd Mawrth.
Mae'r ddau ddyn, sy'n gweithio i Press TV o Iran, yn cael eu holi yn Tripoli.
Dywedodd chwaer Mr Montgomery-Johnson wrth BBC Cymru nad oedd ganddi unrhyw syniad pam fod ei brawd wedi cael ei harestio.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau fod dau ddyn o Brydain wedi eu harestio.
Dywedodd Press TV fod Mr Montgomery-Johnson a Mr Davies wedi eu harestio ynghyd â dau ddyn o Libya ond eu bod wedi methu â chysylltu â'r pedwar ers dydd Mawrth.
Ers i'r Cyrnol Muammar Gaddafi gael ei ddisodli mae llywodraeth drawsnewidiol wedi bod yn ceisio rheoli gwahanol garfanau arfog yn y wlad.
Dywedodd Ms Gribble iddi glywed y newyddion ynglŷn â Mr Montgomery-Johnson drwy ddamwain, ar ôl i ffrind roi gwybodaeth ar Facebook.
Dywedodd bod ei brawd wedi dychwelyd i Libya ar ôl toriad o bythefnos.
Bu'n gweithio yn y wlad ers mis Gorffennaf y llynedd.