Cwpan Pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Rownd yr wyth olaf
Roedd hi'n brynhawn pwysig i'r wyth tîm yng Nghwpan Pêl-droed Cymru. Y gêm fwyaf oedd yr un rhwng y timau oedd yn ail a thrydydd yn yr uwchgynghrair wrth i'r Seintiau Newydd groesawu Castell-nedd i Neuadd y Parc. Un gôl gan Greg Draper ar 37 munud sicrhaodd mai'r Seintiau fydd yn y rownd gynderfynol.
Roedd hi'n gyffrous ar Faes Tegid Y Bala gyda Chris Venables yn rhoi'r ymwelwyr Llanelli ar y blaen ar 42 munud. Ond dim ond deg munud barodd y fantais gyda Lee Hunt yn dod â'r Bala yn gyfartal. Yn y pen draw, Y Bala enillodd 5-4 ar giciau o'r smotyn.
Roedd buddugoliaeth gyfforddus i Airbus gyda goliau gan Adam Worton (16'), Nev Thompson (63') a Mike Hayes (89').
Gôl Tony Cann ar ôl 43 munud i Dderwyddon Cefn oedd yn gyfrifol am eu buddugoliaeth dros Aberystwyth.
Canlyniadau
Bala 1-1 Llanelli - Bala yn ennill 5-4 ar giciau o'r smotyn
Airbus 3-1 Caerfyrddin
Aberystwyth 0-1 Derwyddon Cefn
Y Seintiau Newydd 1-0 Castell-nedd