Cymru yn sicrhau'r Goron Driphlyg
- Cyhoeddwyd
Lloegr 12-19 Cymru
Mae Cymru wedi sicrhau'r Goron Driphlyg am yr ugeinfed tro ar ôl maeddu'r hen elyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Dechreuodd Cymru ar dân, ond er i Gymru gael 72% o'r meddiant yn y 15 munud gyntaf roedd y gêm yn ddi-sgôr tan i Owen Farrell lwyddo gyda chic gosb i'r Saeson ar ôl 23 munud.
Ar ôl i Dan Lydiate lorio ei wrthwynebydd yn ddiseremoni, daeth Leigh Halfpenny â'r Cymry yn gyfartal ar ôl 25 munud gyda'i ail ymgais at y pyst gyda chic gosb.
Ar ôl i Jamie Roberts gael ei gosbi am gamsefyll, aeth y Saeson nôl ar y blaen 6-3 gyda chic gosb Farrell ar ôl 28 munud, ond yn union cyn hynny fe wnaeth y capten Sam Warburton, seren swyddogol y gêm, arbed cais sicr gyda thacl wych.
Cyfartal
Cic gosb ardderchog gan Halfpenny ddaeth â Chymru yn gyfartal wedi 34 munud.
Ond doedd safon meddiant Cymru yn chwarter olaf yr hanner cyntaf ddim yn ddigon da.
Roedd y Saeson yn llwyddo i ddod o hyd i wendidau yn amddiffyn y Cymry, gyda Manusamoa Tuilagi yn ddraenen yn eu hystlys. Gydag yntau wedi bylchu, cafodd y Cymry eu cosbi am blymio i mewn i sgarmes, a llwyddodd Owen Farrell gyda chic gosb ardderchog ar ôl 38 munud i roi Lloegr ar y blaen 9-6 ar yr egwyl.
Ni ddaeth Jamie Roberts yn ôl i'r cae wedi'r egwyl oherwydd anaf, oedd yn ergyd gan iddo fod yn ganolbwynt sawl ymosodiad. Scott Williams ddaeth ymlaen yn ei le.
Cell gosb
Cafodd Rhys Priestland ei anfon i'r cell gosb wedi 44 munud, ac fe ddechreuodd Owen Farrell yr ail hanner fel y gorffenodd yr hanner cyntaf, gyda chic gosb lwyddiannus i roi'r Saeson 12-6 ar y blaen. Ond yn allweddol dyna oedd unig bwyntiau Lloegr pan oedd Cymru i lawr i 14 dyn. Disgyblaeth arbennig gan Gymru.
Tacl holl bwysig gan Jonathan Davies arweiniodd at Halfpenny yn cael cyfle i anelu at y pyst gyda chic gosb, ac fe lwyddodd gyda chymorth y postyn wedi 53 munud. 12-9.
Cafwyd dihangfa i Gymru pan fethodd Farrell â chic gosb am y tro cyntaf yn y gêm wedi 63 munud.
Roedd Lloegr yn rheoli'r tir yn yr ail hanner a Chymru'n cwrso'r gêm, ond roedd cais i Gymru yn edrych yn anochel wedi 68 munud ond methodd Scott Williams ag edrych i'w chwith pan y byddai pas wedi arwain at gais.
Daeth Cymru'n gyfartal 12-12 pan ildiodd Matt Stevens gic gosb, a chadwodd Halfpenny ei bwyll i lwyddo wedi 71 munud.
Yn ddramatig ar ôl 75 munud fe rwygodd Scott Williams y bêl o ddwylo ei wrthwynebydd gan groesi ar ôl cic a chwrs am ei bumed cais dros Gymru ar ei ddegfed cap - ei gais pwysicaf heb os.
Trosodd Halfpenny i roi Cymru 19-12 ar y blaen.
Ym munudau olaf y gêm fe wnaeth y Cymry daclo am eu bywydau, a'r swyddog teledu yn gorfod gwneud y penderfyniad eithriadol anodd a oedd David Strettle wedi tirio am gais wedi 80 munud ai peidio.
Gyda dyfodol tymor Cymru yn y fantol, dim cais oedd y dyfarniad.
Buddugoliaeth hanesyddol gan wireddu breuddwyd y Goron Driphlyg.
Mae breuddwyd y Gamp Lawn yn parhau yn fyw.
TIMAU
CYMRU: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Baynonne); Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision, capt), Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).
LLOEGR: Ben Foden (Northampton Saints); Chris Ashton (Northampton Saints), Manusamoa Tuilagi (Leicester Tigers), Brad Barritt (Saracens), David Strettle (Saracens); Owen Farrell (Saracens), Lee Dickson (Northampton Saints); Alex Corbisiero (London Irish), Dylan Hartley (Northampton Saints), Dan Cole (Leicester Tigers), Mouritz Botha (Saracens), Geoff Parling (Leicester Tigers), Tom Croft (Leicester Tigers), Chris Robshaw (Harlequins, capt), Ben Morgan (Scarlets).
Eilyddion: Rob Webber (London Wasps), Matt Stevens (Saracens), Courtney Lawes (Northampton Saints), Phil Dowson (Northampton Saints), Ben Youngs (Leicester Tigers), Toby Flood (Leicester Tigers), Mike Brown (Harlequins).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012