Nathan Cleverly yn parhau'n bencampwr byd

  • Cyhoeddwyd
Tommy Karpency a Nathan CleverlyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tommy Karpency a Nathan Cleverly

Fe wnaeth Nathan Cleverly amddiffyn coron is-drwm WBO y byd yn llwyddiannus yn erbyn yr Americanwr Tommy Karpency yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Hwn oedd yr ornest cyntaf iddo ymladd ar ei domen ei hunan ers pedair blynedd.

Aeth Karpency ag ef yr holl ffordd i ddiwedd y 12 rownd, ond roedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol.

"Roedd e'n anodd," meddai Cleverly, unig bencampwr Prydain ar hyn o bryd ar ôl i David Haye, Amir Khan a Carl Froch golli'n ddiweddar.

"O'r holl bocswyr dwi wedi wynebu, fe oedd yn dyrnu galetaf. A dwi wedu wynebu dyrnwyr mawr".

Hon hefyd oedd yr ornest gyntaf am bencampwriaeth byd yng Nghymru ers i Joe Calzaghe guro Mikkel Kessler yn 2007.

Roedd yr achlysur yn un "arbennig iawn i fi ac i focsio Cymru ... cyfle i ddod â'r dyddiau aur yn ôl i focsio Cymru," meddai'r paffiwr 25 oed.

"Mae'n benwythnos gwych, Cymru'n curo Lloegr yn y Chwe Gwlad a Chaerdydd yn rownd derfynol Cwpan Carling.

"Mae'n arbennig i wlad fach fel Cymru gynnal pencampwriaeth bocsio'r byd. Mae'n wych i'r wlad, y cefnogwyr ac i finne gael bod yn rhan o hynny."

Diguro

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cleverly yn bocsio yng Nghymru am y tro cyntaf ers pedair blynedd

Roedd Cleverly yn amddiffyn ei goron WBO am y trydydd tro yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

"I fi mae dod â phencampwriaeth byd yn ôl i Gymru yn bwysig," meddai.

Mae Cleverly yn cael ei gymharu gyda Joe Calzaghe, gan i'r ddau gael eu magu yn Sir Caerffili.

Daeth gyrfa Calzaghe i ben gyda 46 o ornestau yn ddiguro ac mae Cleverly nawr wedi ennill 24 gornest heb golli.

Dylanwad cryf

Ac mae Cleverly yn cydnabod bod Calzaghe yn ddylanwad cryf.

"Mae Joe wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth. Roedd yn bencampwr byd pan o'n i'n dechrau bocsio.

"Fe gafodd e a finne ein magu mewn amgylchiadau tebyg ac mae'n profi bod unrhyw beth yn bosib.

"Gall rhywun o dref fach yn y cymoedd mewn gwlad fach goncro'r byd. Mae Joe wedi gwneud hynny - fy nhro i yw hi nawr."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cleverly nawr wedi ennill 24 gornest heb golli.