Damwain yn Y Pîl: Dyn mewn cyflwr difrifol

Heddlu'r De Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De

Mae dyn 77 oed mewn cyflwr difrifol gydag anafiadau lluosog yn dilyn damwain rhwng ei gar a lori.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A48 yn Y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr am 11:20am ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid i'r dyn gael ei dynnu o'i gar Mercedes gan y gwasanaethau brys.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, a bu'r ffordd ar gau am fwy na phedair awr.

Ni chafodd gyrrwr 48 oed y lori ei anafu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 02920 633438 neu 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.