Damwain yn achosi trafferthion ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Roedd tagfeydd ar ffordd yr M4 ger Caerdydd fore Llun ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char.
Digwyddodd y ddamwain ar ochr ddwyreiniol cyffordd 33.
Mae traffig ar yr A4232 sy'n ceisio teithio i'r dwyrain ar yr M4 yn cael eu dargyfeirio i'r lôn orllewinol, ac yna yn troi i'r dwyrain ar gyffordd 34.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod un dyn wedi cael mân anafiadau.
Bu'n rhaid defnyddio offer arbennig er mwyn ei dorri'n rhydd.