Heol yn torri lefelau llygredd Ewrop
- Cyhoeddwyd

Bydd un o briffyrdd prysuraf Abertawe yn un o'r rhai cyntaf yn y Deyrnas Unedig ble bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio er mwyn peidio torri lefelau llygredd Ewropeaidd.
Mae Heol Castell-nedd yn Hafod yn ffordd hir a chul sy'n golygu nad oes lle i'r aer ddianc yn ystod cyfnodau prysur ac yn ystod tywydd poeth.
Bydd cyfarpar monitro aer, traffig a thywydd yn anfon negeseuon i arwyddion electronig yn y ddinas, fydd yn hysbysu gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill os yw'r llygredd yn cyrraedd lefelau uchel.
Bydd y cynllun yn costio tua £100,000 a disgwylir iddo ddechrau ymhen ychydig o flynyddoedd.
Hysbysu gyrwyr
Mae'r system eisoes wedi profi'n llwyddiannus yn Sweden.
Yn y tymor byr, bydd yn rhaid i yrwyr ddefnyddio ffyrdd eraill ond mae cynlluniau ar y gweill i greu ffordd liniaru yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd John Hague, aelod cabinet Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am yr amgylchedd: "Rydym wedi bod yn monitro ansawdd aer yn ardal Hafod yn y ddinas ers nifer o flynyddoedd ar ôl datgan bod yr ardal yn ardal Rheoli Ansawdd Aer.
"Bydd y cynllun diweddaraf yn ein galluogi i fonitro llif y traffig ar y prif ffyrdd i mewn ac allan o'r ddinas sy'n mynd trwy Hafod, yn ogystal â monitro ansawdd aer.
"Bydd y data sy'n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i hysbysu gyrwyr am ffyrdd amgen yn ystod eu siwrneiau gan wella ansawdd aer ar y ffyrdd hyn."
Mae'r rhan o Heol Castell-nedd dan sylw wedi'i lleoli rhwng Stadiwm Liberty a'r goleuadau traffig yn Dyfatty.
Llygryddion
Mae tai teras a siopau wedi eu lleoli ar bob ochr y stryd gul, sy'n creu effaith ceunant sy'n atal yr aer rhag dianc.
Mae'r stryd wedi dioddef problemau traffig ers nifer o flynyddoedd ac mae Hafod wedi'i enwi yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ers 2001 am fod lefelau llygredd yn yr awyr yn uwch na'r lefel diogelwch.
Mae cerbydau nwyddau trwm a bysiau wedi'u gwahardd rhag defnyddio'r heol a chafodd twmpathau cyflymder eu symud oddi yno yn 2007 i helpu i wella'r llif traffig.
Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn cyfyngu allyriadau nitrogen deuocsid a llygryddion eraill oherwydd eu heffaith ar iechyd pobl.
Yn 1999, gosododd yr UE amcan i aelodau ostwng lefelau nitrogen deuocsid i lai na 40 micro gram i bob metr ciwbig o aer erbyn 2010.
Ond fe gafodd nifer o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, anhawster i fodloni eu hanghenion ac fe gawson estyniad tan 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Speht, sy'n cynrychioli ward Glandŵr, fod lefelau llygredd ar Heol Castell-nedd yn torri'r gyfraith "sawl gwaith pob blwyddyn".
Mae cynllun ar y gweill i adeiladu ffordd liniaru rhwng Stadiwm Liberty a datblygiad tai newydd y tu ôl i faes siopa Parc Tawe.
Y gobaith yw y bydd yr heol newydd yn cael ei hadeiladu yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2000