Firws: 'Byddwch yn wyliadwrus'

  • Cyhoeddwyd
Dafad ac oenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r firws yn gallu achosi erthylu hwyr mewn defaid, gwartheg a geifr.

Mae ffermwyr Cymru yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o unrhyw achosion posib o haint sy'n achosi nam geni ac erthylu ar ddefaid a gwartheg.

Mae firws Schmallenberg mewn 74 fferm yn Lloegr, gan gynnwys pum achos sy'n effeithio ar wartheg a 69 achos sy'n effeithio ar ddefaid.

Does dim un achos yng Nghymru hyd yn hyn.

Dyw'r firws, sy'n ymledu oherwydd gwybed, trogod a mosgitos, ddim yn effeithio ar bobl.

Tymor ŵyna

Dywedodd Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru, wrth BBC Cymru ei fod yn pryderu am y sefyllfa.

"Nid yw'r firws yn cael effaith ddychrynllyd ar anifeiliaid heblaw am y rheiny sy'n feichiog," meddai.

"Ond mae'n bosib colli efallai 25 % o ŵyn mewn praidd sy'n cael ei effeithio gan y firws."

Dywed Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig eu bod yn credu bod anifeiliaid wedi eu heffeithio gan y firws ar ôl i wybed heintiedig gael eu chwythu o Ewrop i Brydain.

Bydd effaith y clefyd yn dod i'r amlwg yn ystod y pythefnos nesaf wrth i'r tymor ŵyna gyrraedd ei anterth.

Erbyn hyn mae achosion o'r firws wedi eu darganfod yn Swydd Caerloyw, Ynys Wyth, Gorllewin Berkshire a Swydd Wiltshire.

Mae hyn yn ychwanegol at y ffermydd lle'r oedd y firws eisoes wedi ei ddarganfod yn Norfolk, Suffolk, Caint, Essex, Dwyrain a Gorllewin Sussex, Swydd Hertford, Surrey a Hampshire.

'Cyfnod pryderus'

Dywedodd Don Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Hybu Cig Oen ac Eidion Cymru, cwmni cydweithredol sy'n cynnwys mwy na 7,500 ffermwyr, ei fod yn gyfnod pryderus.

Ychwanegodd na fyddai effaith y broblem yn hysbys tan i anifeiliaid gael eu geni.

"Yn amlwg, os yw'r firws wedi lledu ar draws y Sianel mae yna beryg ei fod wedi lledu ymhellach na hynny," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydweithio'n agos gyda gweinyddwyr ac asiantaethau i wella ein dealltwriaeth o sut mae'r firws yn lledu ac a oes yna fesurau ymarferol y gellid eu cyflwyno".

"Rydym yn annog rhai sy'n cadw anifeiliaid i roi gwybod i'w milfeddyg os ydyn nhw'n amau bod 'na achosion. Bydd achosion sy'n cael eu cyfeirio at yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol yn cael eu profi yn rhad ac am ddim."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol