Ymchwiliad wedi damwain farwol
- Cyhoeddwyd
Bu farw gyrrwr beic modur ar ôl damwain rhwng Pont Senni a Threcastell ar ffordd yr A40 ym Mhowys.
Mae gyrrwr car Subaru mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Digwyddodd y ddamwain tua 11.50am ddydd Sul.
"Roedd gyrrwr y beic modur o ardal Pontypridd, tra bod y fenyw oedd yn gyrru'r car o ardal Aberhonddu," meddai'r arolygydd Dyfed Bolton o Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain ac yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhyw beth i gysylltu â nhw ar 101.