Dyn wedi marw ar ôl disgyn oddi ar bont

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn ddisgyn oddi ar Bont Llansawel ger Castell-nedd.

Cafodd swyddogion eu galw i'r ardal ychydig cyn 9:30am ddydd Llun wedi adroddiadau fod dyn wedi syrthio.

Cadarnhawyd fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Ar un adeg cafodd un lôn orllewinol rhwng Cyffordd 41 yr M4 ym Maglan a Chyffordd 42 ar gylchfan Coed-yr-Iarll ei chau.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y lôn wedi ei hailagor a'r traffig yn symud yn rhwydd i'r ddau gyfeiriad.

Mae ymchwiliad ar y gweill ac mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol