'Hanner yn wynebu dyled o gostau trafnidiaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae gyrwyr yn gorfod mynd i ddyled oherwydd costau rhedeg ceir, yn ôl adroddiad grŵp o elusennau yng Nghymru.
Yr honiad yw bod rhaid i fwy na miliwn o bobl yng Nghymru wario o leiaf 10% o'u hincwm.
Dywedodd Sustrans Cymru, sy'n gyfrifol am adroddiad "Rhwystro Mynediad," y dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a chynghorau fynd i'r afael â phroblem gynyddol "tlodi trafnidiaeth".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i wella symudedd a'u bod yn targedu adnoddau.
Dewisiadau amgen
Mae'r adroddiad, sy'n honni bod chwarter cartrefi Cymru heb gar o gwbl a bod costau tanwydd yn parhau i godi, yn galw am fwy o fuddsoddi mewn dewisiadau amgen fel trafnidiaeth gyhoeddus, clybiau ceir a llwybrau cerdded a beicio.
Yn ôl yr adroddiad, mae prinder dewisiadau amgen yn golygu bod llawer o bobl yn gorfod dewis rhwng mynd i ddyled a chael eu rhwystro rhag cael swyddi a gwasanaethau fel gofal iechyd, siopau ac ysgolion.
Dywedodd Age Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Cronfa Achub y Plant y byddai'r broblem yn gwaethygu heb fuddsoddiad.
Mae'r elusennau wedi nodi bod llawer o bobl nid dim ond yn methu fforddio car ond yn ei chael hi'n anodd talu cost trafnidiaeth gyhoeddus.
'Yn gywilyddus'
Dywedodd Lee Waters, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, "Mae'n gywilyddus fod bod heb gar mewn llawer rhan o Gymru yn cyfyngu ar eich cyfleoedd mewn bywyd.
"Drwy gymryd yn ganiataol bod gan bawb fynediad i gar, rydym wedi gwthio miloedd i fod yn berchen ar gar na allan nhw ei fforddio.
"Os yw Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi, rhaid i ni wneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at swyddi a'r gwasanaethau y mae eu hangen ble bynnag maen nhw'n byw.
"Mae hyn yn gollygu adeiladu system drafnidiaeth sydd ar gael i bawb nid dim ond i'r rhai sy'n gallu fforddio gyrru."
Mae'r elusennau yn honni bod wyth ardal sirol yng Nghymru lle mae mwy na hanner y boblogaeth yn byw mewn "tlodi trafnidiaeth" - Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd.
Diffyg cyllid
Ym mis Ionawr dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhaid iddyn nhw dorri £3m o'u cymhorthdal trafnidiaeth leol oherwydd diffyg cyllid.
Mae'r adroddiad yn galw ar y llywodraeth i wrthdroi'r penderfyniad ac yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu tollau tanwydd a'u buddsoddi mewn trafnidiaeth amgen.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol wedi sicrhau buddsoddiad i wella'r system trafnidiaeth, helpu taclo tlodi a helpu'r economi i dyfu.
Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn ni'n canolbwyntio ar wella symudedd a chysylltedd fel bod pobl yn gallu cael mynediad i swyddi, gofal iechyd, gofal plant, ffrindiau a theuluoedd.
"Wrth gydweithio â grwpiau perthnasol gallwn ni barhau i daclo problem tlodi trafnidiaeth drwy gynlluniau tocynnau teithio rhatach ac opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
"Bydd ein Bil Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn ei gwneud hi'n haws a mwy diogel i gyflawni siwrneiau byr drwy gerdded a seiclo."
Dywedodd Trysorlys Ei Mawrhydi fod safbwynt Llywodraeth y DU ar dollau tanwydd yn Natganiad yr Hydref.
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2012
- 17 Hydref 2009
- 23 Gorffennaf 2008