Ceidwadwyr Cymreig i gynnal rali undydd
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw'n cynnal rali undydd yn Llanelwy fis nesa' wedi iddyn nhw ganslo'u cynhadledd flynyddol yn gynharach y mis hwn.
Byddai'r digwyddiad ar Fawrth 25 yn gyfle i lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol mis Mai, meddai'r blaid.
Roedd 'na gryn feirniadaeth o'r penderfyniad i ganslo'r gynhadledd yn Llandudno ac roedd perchnogion gwestai wedi dweud eu bod wedi'u siomi.
Yn ôl un ffynhonnell ar y pryd, roedd costau diogelwch wedi codi ers y llywodraeth newydd yn San Steffan.
Bydd y digwyddiad fis nesa' yn adeilad Optic Technium, Llanelwy.
'Adeiladu'
Yn ogystal ag anerchiadau Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ac arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, bydd ymgeiswyr etholiadau llywodraeth leol ac arweinwyr grwpiau cyngor yn cael cyfle i drafod polisïau a chyfrannu at sesiynau ymgyrchu.
Dywedodd y blaid eu bod yn "gobeithio adeiladu ar lwyddiannau diweddar yng Nghymru, gan gynnwys etholiadau lleol 2008 pan enillodd y blaid y nifer ucha' erioed o seddi ac ennill rheolaeth ar yr un nifer o gynghorau â Llafur."
Yn ôl cadeirydd y blaid, Jeff James: "Bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli ein hymgeiswyr a'n haelodau gweithgar cyn yr ymgyrchoedd llywodraeth leol dros y 10 wythnos nesa'.
"Byddwn yn gosod dewis clir arall fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Ceidwadol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys helpu pobl i dalu eu treth cyngor, cadw strydoedd yn lân a rhoi gwerth am arian i wasanaethau lleol."
Straeon perthnasol
- 20 Ionawr 2012