Cyhoeddi cyngherddau Prifwyl 2012

  • Cyhoeddwyd
Karl JenkinsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Twm Morys wedi cyfieithu’r geiriau i waith newydd Karl Jenkins

Bydd arlwy cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni yn cynnwys perfformiad Prydeinig cyntaf o waith y cyfansoddwr Cymreig, Karl Jenkins.

Cafodd manylion y cyngherddau eu cyhoeddi wrth i'r Eisteddfod fynd ar daith o amgylch Bro Morgannwg i hybu a hyrwyddo'r Brifwyl, a gynhelir ar hen faes awyr Llandw ger y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst 2012.

Bydd Only Men Aloud ac Only Boys Aloud yn dychwelyd i'r pafiliwn i agor yr ŵyl ar Awst 3.

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol:

"Rydym wedi creu nosweithiau ychydig yn wahanol i'r arfer eleni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arlwy'n apelio at Eisteddfodwyr selog, yn ogystal â phobl sydd heb fentro i'r Pafiliwn o'r blaen.

"Braf yw croesawu rhai o berfformwyr amlycaf Cymru'n ôl atom, a braf hefyd yw gweld cynifer o wynebau newydd - ond yr un mor gyfarwydd mewn gwirionedd - yn ymddangos yn y Pafiliwn gyda ni eleni yn y Fro."

Y première Prydeinig o waith Karl Jenkins, Beirdd Cymru, fydd y prif gyngerdd ar Awst 4, gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain. Perfformiwyd y gwaith hwn am y tro cyntaf yn Hwngari yn 2011, a chyfieithwyd y geiriau i'r Gymraeg gan y Prifardd Twm Morys.

Bydd cyfle hefyd i wrando ar y cantorion Dennis O'Neill a Rebecca Evans, ynghyd â Chôr Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Taith Dilys

Ymhlith y nosweithiau eraill mae dathliad 50 mlynedd o ganu gan Dafydd Iwan a noson gomedi gyntaf yn y pafiliwn yng nghwmni Tudur Owen, Arthur Picton, Dewi Pws ac eraill.

Bydd hefyd sioe newydd gan Caryl Parry Jones a'r Band ac eleni, caiff y Gymanfa Ganu ei chefnogi gan Eglwys Annibynnol Gymraeg Radnor Walk, Chelsea, Llundain.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod i'w gael wrth i 'Dilys', y fan gamper sgleiniog goch, fynd a thîm yr eisteddfod ar daith o amgylch Bro Morgannwg ar Chwefror 28 a 29.

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts: "Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod i'r Fro am dros 40 mlynedd, felly tra bod gan nifer o bobl atgofion am ein hymweliad diwethaf, mae 'na ddwy genhedlaeth o bobl leol sy'n mynd i fod yn darganfod yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r ŵyl yn lleol dros y misoedd nesaf, felly dyma gyrraedd gyda Dilys, sy'n ein galluogi ni i ymweld â nifer o gymunedau ar hyd a lled y dalgylch."

Bydd Dilys yn ymweld â'r Barri, Penarth, Y Bontfaen a Llanilltud Fawr.

Bydd tocynnau i'r cyngherddau ar gael o Fawrth 1.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol