Prifysgol yn anrhydeddu Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd

Mae Bryn Terfel wedi cyhoeddi manylion cyngerdd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mai i ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones.
Fe wnaeth y canwr o Bantglas y cyhoeddiad wrth dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth gan y Brifysgol.
Bydd y canwr opera rhyngwladol - sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Mozart, Verdi a Wagner - yn perfformio gydag unigolion talentog ei ymddiriedolaeth ar Fai 19.
Gwahoddwyd y canwr i dderbyn yr anrhydedd yn 2009, pan ddathlwyd pen-blwydd y brifysgol yn 125 oed.
Ond doedd o ddim ar gael i fynychu'r seremoni gyda'r Arch Esgob Desmond Tutu, Sir David Attenborough, Rhodri Morgan a Sir John Meurig Thomas.
Dathlu talent ifanc
Dywedodd y canwr opera: "Mae'n anrhydedd enfawr cael derbyn y Ddoethuriaeth yma mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor. Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa amrywiol yn y byd cerddorol ac mae cael anrhydedd yn brofiad gostyngedig iawn.
"Rwy'n falch o gyhoeddi ein bwriad i ddychwelyd ym mis Mai gyda rhai sydd wedi derbyn Ymddiriedolaeth Bryn Terfel i berfformio yn Neuadd arbennig Prichard-Jones.
"Bydd y gyngerdd yn rhoi cyfle arbennig i'r artistiaid ifanc ddangos eu talent o flaen cynulleidfa fyw.
"Bwriad yr ymddiriedolaeth yw gwobrwyo unigolion yn ariannol am yr holl waith caled ac ymroddiad sydd ganddynt ar ddechrau eu gyrfaoedd."
Ychwanegodd Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn o ddathlu canmlwyddiant Neuadd Prichard-Jones, a go brin fod ffordd well o ddiweddu'r dathliadau na gydag un o enwogion mwyaf y byd opera yn perfformio gyda sêr y dyfodol.
"Heb os, Bryn Terfel yw un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus Cymru a'r canwr opera gorau i'r wlad erioed ei gynhyrchu.
"Mae'r Brifysgol yn falch iawn o allu gwobrwyo unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd cerddoriaeth - ac wrth wneud hynny yn rhoi Cymru a Gwynedd ar y map."
Cafodd Ymddiriedolaeth Bryn Terfel eu sefydlu yn 2009 ac mae'n gwobrwyo artistiaid ac unigolion ifanc gyda dawn arbennig a ffocws, egni a menter amlwg.