Ailagor unedau ysbytai yn Ebrill

Uned mân anafiadau Dinbych-y-Pysgod Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r uned mân anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod wedi bod ynghau ers Ionawr 3

Bydd dwy uned mân anafiadau, a gaewyd ddechrau'r flwyddyn oherwydd prinder staff, yn ailagor ym mis Ebrill.

Mae nyrsys ysbytai De Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod wedi bod yn helpu yn adrannau brys Llwynhelyg a Hwlffordd.

Roedd 'na bryderon na fyddai'r unedau'n ailagor ond cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn gobeithio y byddai'r ddwy uned yn agor eto ar Ebrill 1.

Maen nhw wedi bod ynghau ers Ionawr 3.

Roedd trigolion yn Ninbych-y-Pysgod a Doc Penfro wedi cyflwyno deiseb i reolwyr gwasanaethau iechyd.

Dywedodd y bwrdd iechyd y byddai modd i gleifion fynd i'r unedau eto "os bydd 'na ateb diogel a chynaliadwy" i gadw'r adran frys yn Llwynhelyg yn agored.

Croesawodd yr Aelod Cynulliad Angela Burns y cyhoeddiad. Roedd hi wedi dweud ei bod yn poeni am ddyfodol hirdymor yr unedau.

"Mae'n hollbwysig nad ydyn ni'n colli mwy o wasanaethau sydd eu hangen yn Sir Benfro i bobl Sir Benfro," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.