Cyhuddo wedi i drên a fan wrthdaro
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o beryglu diogelwch ar y rheilffordd heb fwriad ac o yrru'n beryglus wedi gwrthdrawiad rhwng trên a fan.
Cafodd Daniel Bellis ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w frest a'i wddf wedi'r ddamwain ar Chwefror 16.
Roedd y fan cwmni B D Atkins Dairy Engineers wyneb i waered ger y cledrau ar ôl y gwrthdrawiad ar Groesfan Pikins ger Llanbrynmair.
Trên Arriva Cymru 10.09am o Birmingham i Aberystwyth oedd yn teithio ar y rheilffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Gallaf gadarnhau fod Daniel Bellis, 35 oed o Groesoswallt, Sir Amwythig, wedi cael ei gyhuddo.
"Mae hyn mewn perthynas â gwrthdrawiad rhwng fan yr oedd yn ei gyrru â thrên ar groesfan Pikins ger Llanbrynmawr, Powys ..."
Mae disgwyl iddo fod yn Llys Ynadon y Trallwng ar Fawrth 20.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012