Tîm rygbi Cymru'n dringo uwchlaw Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Scott Williams yn sgorio cais dros GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Sicrhaodd cais Scott Williams y fuddugoliaeth i Gymru ddydd Sadwrn

Mae Cymru wedi dringo uwchlaw Lloegr ar restr detholion y byd wedi eu buddugoliaeth yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Fe guron nhw'r tîm cartre', gan gipio'r Goron Driphlyg, ar ôl gêm gyffrous iawn.

O ganlyniad mae'r Cochion wedi codi un safle i bumed, gan gyfnewid safle gyda Lloegr.

Y pedair gwlad ucha' ar ddiwedd y flwyddyn fydd y timau dethol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Lloegr yn 2015.

Ar hyn o bryd y timau yw'r pencampwyr byd presennol Seland Newydd, Awstralia, Ffrainc a De Affrica.

Mae Iwerddon, gafodd fuddugoliaeth gyfforddus dros Yr Eidal ddydd Sadwrn, yn parhau yn yr wythfed safle tra bod Yr Alban yn aros yn safle rhif 11 ar ôl colli yn erbyn Ffrainc o 23-17 ddydd Sul.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol