Cyngor Cei Conna yn erbyn llosgydd lleol
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor tref wedi ysgrifennu at arweinwyr cymunedol lleol yn codi pryderon am gynllun gwastraff £800 miliwn a allai arwain at godi llosgydd gwastraff yn Sir y Fflint.
Ar hyn o bryd mae ymgeiswyr posib yn paratoi cynlluniau am y ffordd orau i waredu 150,000 tunnell o wastraff y flwyddyn o gynnyrch na ellir ei ailgylchu yng ngogledd Cymru.
Mae 'na bryder y gallai'r llosgydd gael ei godi ar safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Dywed swyddogion tu ôl i'r cynllun nad oes 'na benderfyniad wedi ei wneud am safle eto.
Ond mae tir ar Ynys Môn wedi ei wrthod.
Mae dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb Cyngor Tref Cei Conna yn gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer y llosgydd gan alw am "ffyrdd mwy gwyrdd o waredu gwastraff".
Dywedodd clerc Cei Conna, Ian Jones, ei fod wedi cysylltu gyda chynghorau cymuned a thref lleol eraill yn codi pryderon iechyd ac amgylcheddol am y defnydd o'r math yma o waredu gwastraff.
Prosiect cynghorau
Mae swyddogion tu ôl i'r cynllun wedi gwahodd tri ymgeisydd i greu cynlluniau ar gyfer cynllun i ddelio gyda gwastraff.
Maen nhw'n gallu cynnig eu safle eu hunain.
Mae pump o'r chwe chyngor sir yn y gogledd - ac eithrio Wrecsam - wedi creu'r prosiect mwya' o'i fath, sy'n cynrychioli buddsoddiad o hyd at £800 miliwn dros 25 mlynedd.
Cyngor Sir y Fflint sy'n arwain y prosiect Cynllun Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (NWRWTP) ar ran Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Yn 2010 fe wnaeth y bartneriaeth gyhoeddi y gallai safle ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy gael ei ddefnyddio ar gyfer y llosgydd.
Dywedodd swyddogion bod hyn wedi ei nodi mewn cynllun busnes er mwyn sicrhau £142 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
"Er nad oes 'na gynlluniau cadarn wedi eu cytuno....mae lle i gredu y bydd llosgydd yn cael ei godi i drin holl wastraff pobl gogledd Cymru," meddai'r llythyr gan gyngor Cei Conna.
Pryderon
Aiff ymlaen i godi pryderon am effaith iechyd ac amgylchedd ac yn galw ar y cynghorau i gefnogi deiseb y cyngor.
Yn ôl y cynghorau sir mae 'na amserlen ac na fydd safle yn cael ei ddewis am beth amser.
"Mae'r bartneriaeth yn edrych ymlaen at gael trafodaeth ystyrlon gyda phawb unwaith y cawn gynlluniau manwl gan yr ymgeiswyr yn yr haf."
Mewn ymateb i'r pryderon iechyd a diogelwch, dywed eu gwefan bod 'na gyfraith lem yn ei lle sy'n ymwneud ag allyriadau i warchod iechyd y cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2011