Morgannwg yn cyhoeddi colledion o £1.7m am y flwyddyn 2011
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi colledion o £1.7 miliwn y llynedd gan gynnwys colled o £1.2 miliwn o'r gêm brawf rhwng Lloegr a Sri Lanka.
Ar ôl ystyried taliadau ychwanegol o ran ailddatblygu y stadiwm roedd eu colled am y flwyddyn yn £3 miliwn.
Ym mis Ionawr, fe wnaeth y clwb gyhoeddi eu bod wedi ail-strwythuro eu cyllid.
"Mae canlyniadau 2011 yn gosod y sialensiau ariannol yr ydym fel clwb wedi bod yn ei wynebu ers rhai blynyddoedd yn ei gyd-destun," meddai Alan Hamer, Prif Weithredwr Morgannwg.
"Mae'r sefyllfa economaidd yn her yn ogystal â byrdwn dyledion o golli arian yn ystod cynnal gêm brawf Lloegr a Sri Lanka y llynedd.
"Mae ganddo ni hefyd gostau eraill.
"O eithrio hynny, roedd y busnes yn ffafriol efo'r flwyddyn flaenorol."
Dyfodol y clwb
Mae dyfodol ariannol y clwb i'w weld yn well gyda'r cyfrifon wedi eu haddasu.
Fe wnaeth y clwb drosiant o £6.6 miliwn yn ystod 2011.
Ym mis Ionawr fe wnaeth y clwb gyhoeddi bod eu benthycwyr, sy'n cynnwys Allied Irish Bank, Cyngor Caerdydd a'r cyn-gadeirydd Paul Russell, wedi cytuno i ailstrwythuro'r benthyciad.
Yn ychwanegol, mae Morgannwg wedi codi £1.3 miliwn gan grŵp o naw o fuddsoddwyr.
Dywedodd Cadeirydd Morgannwg, Barry O'Brien, bod yr ailstrwythuro yn sicrhau dyfodol ariannol y clwb.
"Gallwn edrych ymlaen at 2012 a thu hwnt gyda hyder o'r newydd," meddai.
Dros y pum mlynedd nesaf fe fydd 17 diwrnod o griced rhyngwladol yn cael eu cynnal yn Stadiwm Swalec.
Ar ddiwedd tymor 2012 fe fydd gêm undydd Lloegr yn erbyn De Affrica yn cael ei gynnal yno.
Straeon perthnasol
- 31 Ionawr 2012
- 17 Chwefror 2011
- 13 Gorffennaf 2009