Diwygiadau i 'leihau incwm miloedd ar fudd-daliadau'
- Cyhoeddwyd

Mae degau o filoedd o bobl "ar ymyl y dibyn" oherwydd diwygiadau i'r system les, yn ôl adroddiad sydd wedi'i gomisiynu gan glymblaid o elusennau.
Yn ôl ymgyrch Cuts Watch Cymru gallai'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn San Steffan roi pwysau ar Lywodraeth Cymru, cynghorau, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU amddiffyn y newidiadau, gan ddweud y byddai diwygiadau yn "adfer tegwch" i'r system.
Mae'r adroddiad yn dweud y bydd pobl sy'n derbyn budd-dal diweithdra yn wynebu "cosbau llym" os nad ydyn nhw'n edrych am waith yn ystod cyfnodau pan mae diweithdra'n uchel.
Dywed hefyd y bydd yna "ostyngiad sylweddol mewn incwm" i rai pobl anabl a bydd newidiadau i fudd-dal tai "yn golygu y bydd bron pob tenant mewn sefyllfa waeth."
Dim effaith eto
Mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd torri incwm teuluoedd yn tynnu arian o'r economi, gan arwain at golli mwy o swyddi a gwasanaethau'n dod i ben.
"Mae cyfuniad o argyfwng economaidd, colli swyddi, cyflogau'n gwasgu a phrisiau'n codi yn golygu fod pobl yng Nghymru yn wynebu'r sialens fwyaf heriol i'w lles ers degawdau," meddai.
Mae'n tanlinellu bod y rhan fwyaf o'r newidiadau i fudd-daliadau sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth San Steffan heb gael effaith eto ar y bobl sy'n eu derbyn.
"O ganlyniad, mae degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn sefyll yn ddiarwybod ar ymyl dibyn," ychwanegodd.
Mae Cuts Watch Cymru'n cynnwys elusennau a sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio ar y llinell flaen.
Cafodd yr adroddiad ei hysgrifennu gan Sefydliad Bevan sy'n gweithio dros gydraddoldeb cymdeithasol yng Nghymru.
Dywed eu bod wedi eu "hysgogi gan bryder y bydd miloedd mwy o bobl ar hyd a lled Cymru yn cael eu taflu i dlodi."
Dywedodd llefarydd o Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth San Steffan: "Fe fydd ein diwygiadau yn adfer tegwch i system lles sydd ddim yn gweithio, wrth sicrhau y bydd y rheiny sydd angen cymorth yn parhau i'w derbyn.
'Cefnogaeth ddiamod'
"Mae bron pawb yn derbyn mai gwaith yw'r ffordd gorau i ddyfodol gwell, nid bywyd ar fudd-daliadau, ac rydyn ni'n sicrhau bod gwaith gwastad yn talu trwy gyflwyno'r Credyd Cyffredinol - gan dynnu 350,000 o blant a 550,000 oedolyn allan o dlodi yn y proses.
"Bydd pobl sy'n rhy sâl neu anabl i weithio'n parhau i dderbyn ein cefnogaeth ddiamod, tra bydd y rhai sy'n gallu gweithio'n derbyn cefnogaeth cyflogaeth arbenigol trwy'r Rhaglen Gwaith."
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Llafur Mark Drakeford gallai'r toriadau gyfuno i effeithio'r bobl a'r llefydd tlotaf.
"Mae'n gallu cael y fath o effaith cynyddol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan."
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno polisïau sy'n "adeiladu hydwythedd" cymunedau.
Bydd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews, sy'n cadeirio pwyllgor sy'n cymryd golwg ar effaith diwygio'r system lles, yn gwneud datganiad ar y mater yn y Senedd ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- 5 Ionawr 2012
- 22 Hydref 2011
- 5 Gorffennaf 2011