Elusennau i elwa o gêm goffa Gary Speed

  • Cyhoeddwyd
Gary SpeedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd y gêm goffa nos Fercher yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Bydd nifer o elusennau ac achosion da yn elwa o Gêm Goffa Ryngwladol Gary Speed.

Fe fydd Cymru yn wynebu Costa Rica nos Fercher yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ers marwolaeth Speed ym mis Tachwedd 2011.

Yn absenoldeb y capten Aaron Ramsey oherwydd anaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau mai Craig Bellamy fydd y capten ar gyfer y gêm.

Bydd elusen cymorth canser Macmillan; C.A.L.M. (Campaign Against Living Miserably) - elusen sy'n gweithio i leihau nifer y dynion dan 35 sy'n lladd eu hunain ac elusen epilepsi Daisy Garland yn elwa.

Hefyd yn derbyn cymorth y bydd Academi Bechgyn Dan 15 Clwb Pêl-Droed Wrecsam. Mae Ed, mab Speed, yn aelod o'r academi.

Ac mae 'na gymorth hefyd i Sefydliad Craig Bellamy.

Yn hytrach na chymorth ariannol fe fydd offer a dillad yn cael eu hanfon i'r sefydliad yn Sierra Leone.

Cafodd pob un o'r elusennau eu henwebu gan deulu Speed.

Byddan nhw'n derbyn swm ariannol ac eithrio Sefydliad Craig Bellamy.

Yn ychwanegol fe fydd y cyn-chwaraewr rhyngwladol, Matthew Jones, yn rhedeg hanner marathon yn y stadiwm ac yn casglu arian tuag at Gymdeithas Anafiadau Asgwrn y Cefn.

Bydd yn rhedeg sawl marathon llawn yn y dyfodol ar ôl i Speed ei annog i wneud hynny'n wreiddiol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol