
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Lynette: AS yn mynnu ymchwiliad
28 Chwefror 2012 Diweddarwyd 08:40 GMT
Mae un o'r achosion troseddol amlyca yn hanes Cymru yn cael sylw eto fore Mawrth.
Mae tri pherson gafodd eu carcharu ar ôl rhoi tystiolaeth ffug yn achos llofruddiaeth Lynette White, yn galw am ddileu eu dedfrydau.
Daeth achos yn erbyn nifer o gyn swyddogion heddlu - oedd wedi'u cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol - i ben fis Rhagfyr.
Ar y Post Cyntaf ddydd Mawrth, bu Garry Owen yn holi'r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd, oedd yn galw eto am ymchwiliad llawn i'r mater.