Hwb ariannol i brosiectau ymwelwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd pedwar prosiect twristiaeth amrywiol o amgylch Cymru yn elwa o fuddsoddiad cyffredinol gwerth £1.15m.
Mae'n rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau twristiaeth newydd, yn ogystal â rhai sydd eisoes yn bodoli.
Wrth gyhoeddi'r cyllid yn ystod Wythnos Dwristiaeth Cymru, dywedodd Edwina Hart y Gweinidog Busnes y byddai'n helpu i greu a diogelu hyd at 75 o swyddi, yn cefnogi'r arfer o fuddsoddi mewn cyfleusterau o ansawdd ac yn gwella perfformiad busnesau a phrofiad ymwelwyr.
Dywedodd Mrs Hart: "Mae twristiaeth yn werth tua £3.3biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru am hybu buddsoddi mewn cyfleusterau newydd i dwristiaid a'r cyfleusterau sy'n bodoli eisoes er mwyn bod yn fwy cystadleuol.
"Os ydym i gystadlu'n effeithiol ag ardaloedd a chyrchfannau eraill, mae'n rhaid inni allu cynnig profiad o ansawdd uchel."
Prosiectau
Ymhlith y prosiectau sydd wedi cael arian drwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS), bydd £150,000 yn cael ei wario ar fflatiau 5 seren yn y Strand, eiddo rhestredig gradd II yn Abertawe, fydd yn creu 14 o swyddi.
Mae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1720 a chredir mai siop longwyr Norwyaidd oedd yno unwaith lle gallai llongwyr yr Horn brynu hwyliau.
Bydd llety gwyliau 4 seren newydd yn Y Bermo yn derbyn £60,000. Y syniad yw darparu llety hunanarlwyo, gyda chyfleusterau i bobl ag anghenion arbennig a'u gofalwyr, a staff profiadol yn natblygiad Great Breaks Leisure Ltd.
Mae Castell Rhuthun, gwesty 60 ystafell wely 3 seren, a'i barc 27 erw yng nghanol Rhuthun, yn mynd i dderbyn £500,000 i wella cyfleusterau a chael gradd 4 seren. Y gobaith yw creu 34 o swyddi llawn amser ac 13 o swyddi rhan amser.
Yn dilyn buddsoddiad o £100,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd Canolfan Ddringo Beacon yng Nghaernarfon yn symud o Geunant i safle newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yn y dre'.
Bydd yna fwy o le ar gyfer cyfleusterau a gweithgareddau - megis ogofa, cwrs rhaffau uchel a wal ddringo, yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod, theatr ddarlithio, tŷ bwyta, crèche, siop gwerthu cyfarpar a swyddfeydd.