Anaf 'difrifol' wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar.
Fe ddigwyddodd tua 2:15pm ddydd Llun, ar ffordd y B4288 rhwng Trefaldwyn a Ffordun.
Yn ôl y Cwnstabl Marcus Wright, o'r uned plismona ffyrdd: "Roedd dau gerbyd wedi taro yn erbyn ei gilydd, Ford Mondeo lliw arian a Volvo glas.
"Cafodd y ddau yrrwr eu cludo i Ysbyty Brenhinol Amwythig, gyda gyrrwr y Volvo yn cael ei ryddhau ychydig yn ddiweddarach.
"Bu'n rhaid trosglwyddo gyrrwr y Mondeo i Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham yn syth, gydag anafiadau difrifol i'w goes."
Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â gorsaf heddlu'r Drenewydd ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol