Ysgol: Gwrthod her gyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Yn ôl Cyngor Sir Gâr, mae barnwr wedi gwrthod her gyfreithiol i'w cynllun i uno dwy ysgol uwchradd.
Roedd ymgyrchwyr o ardal Llanymddyfri yn erbyn bwriad i uno Ysgol Pantycelyn ag Ysgol Tregib yn Llandeilo wedi gwneud cais am adolygiad barnwrol.
Mae Grŵp Ymgyrchu Pantycelyn wedi galw am wrandawiad llafar gerbron barnwr gwahanol er mwyn adolygu'r penderfyniad i wrthod caniatáu adolygiad barnwrol.
'Ddim yn llawn'
Bydd y gwrandawiad newydd ar Fawrth 8.
Y Barnwr Milwyn Jarman QC wrthododd y cais am adolygiad barnnwrol. "Cafodd y penderfyniad ei wneud am resymau addysgiadol, demograffig ac ariannol am ei fod yn amlwg nad yw Ysgol Pantycelyn wedi bod yn llawn, yn gorwario ers sawl blwyddyn a bod ysgolion eraill yr ardal â mwy o ddisgyblion nag o leoedd ac y byddai'r duedd hon yn debygol o barhau.
"Roedd y broses benderfynu'n hir oedd yn cynnwys asesiadau cymunedol a thraffig ymysg asesiadau eraill fel rhan o gyfnodau ymgynghorol ffurfiol ac anffurfiol.
"Mae'n amlwg o'r asesiadau hyn fod y materion wedi'u hystyried yn briodol.
"Roedd y safle gafodd ei ddewis yn amlwg yn ffurfio rhan o ddadansoddiad y safle er ei fod yn rhan o ardal fwy o dir.
"Cafwyd rhesymau clir a diogel o ran ffafrio'r safle."
'Yn siomedig'
Dywedodd Gwynne Wooldridge, Aelod Addysg Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rydym yn croesawu penderfyniad y barnwr ond yn siomedig bod y grŵp gweithredu yn gwrthod ei dderbyn.
"Mae eu gwrthwynebiad parhaol yn arwain at fwy o oedi o ran y prosiect, gan effeithio ar bob un o'r pum ysgol yn ardal Dinefwr.
"Pobl ifanc yr ardal fydd yn dioddef am na fydd y cynlluniau hyn allai bod o fudd iddyn nhw symud ymlaen tan fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys."
Mae'r cyngor sir wedi sicrhau cyllideb o £23.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i godi ysgol newydd.
Bwriad y cyngor yw codi'r ysgol newydd yn Ffairfach, Llandeilo.
Mae nifer o rieni yn Llanymddyfri yn gwrthwynebu'r lleoliad, safle sy'n 15 milltir o Lanymddyfri.
Ac mae'r cynlluniau i uno'r ddwy ysgol yn rhan o gynllun ehangach i ad-drefnu ysgolion yn nwyrain y sir.
Rhan arall o'r cynllun yw uno Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol y Gwendraeth gyda'r bwriad o sefydlu ysgol newydd yng Nghwm Gwendraeth ar safle presennol Maes yr Yrfa.
Straeon perthnasol
- 10 Mai 2011
- 22 Mawrth 2011
- 21 Ebrill 2010