Rhoi hanes y Rhyfel Mawr ar-lein
- Cyhoeddwyd

Bydd prosiect i droi ffynonellau gwreiddiol y Rhyfel Mawr yn ddigidol yn mynd yn ei flaen ar ôl derbyn £500,000.
Mae prosiect y Llyfrgell Genedlaethol mewn cydweithrediad â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru wedi derbyn yr arian oddi wrth y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth.
Y nod yw casgliad am hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut yr effeithiodd ar holl fywyd Cymru, ei hiaith a'i diwylliant.
Bydd ffynonellau printiedig yn ogystal â deunydd ffilm, sain a ffotograffau yn cael eu troi'n ddigidol.
'Amhrisiadwy'
Mae'r ffynonellau ar hyn o'r bryd ar wasgar ac, yn aml, yn anghyraeddadwy ond gyda'i gilydd fe fyddan nhw'n adnodd i ymchwilwyr, myfyrwyr a phobl Cymru a thu hwnt.
Bydd y casgliad digidol ar gael ar wefan fydd â theclyn cyfieithu.
"Bydd y wefan yn amhrisiadwy ar gyfer dysgu, ymchwilio a chofio a bydd ar gael ar-lein ar gyfer canmlwyddiant dechrau'r rhyfel," meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.
"Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio rhwng llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau Cymru fel bod modd cyflwyno'r hanesion i'r gynulleidfa ehangaf bosibl."
Datblygwyd y prosiect gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.
Bydd Casgliad y Werin Cymru yn casglu cynnwys cymunedau, haneswyr lleol a haneswyr teulu ac yn digido eitemau casgliadau personol wrth deithio ar draws Cymru.
'Pwysig'
Dywedodd Paola Marchionni, rheolwr prosiect y cydbwyllgor: "Drwy ddigido a chydweithio bydd y prosiect yn dod â chasgliad rhyfeddol o archifau ynghyd.
"Mae'n addo bod yn ganolfan bwysig ar gyfer ymchwilwyr neu fyfyrwyr sydd am edrych ar brofiad Cymru a'r Rhyfel Mawr."
Cost y prosiect digido fydd £987,916.
Daw £500,000 o gyllideb rhaglen y cydbwyllgor ar gyfer 2011-13. Codir gweddill yr arian drwy gyfraniad sefydliadol bunt am bunt partneriaid y prosiect.
Mae'r prosiect yn dechrau'r mis hwn, gyda'r adnoddau ar-lein yn cael eu lansio ym Mehefin 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011